Dathlu gwaith cyhoeddwyr Cymru - gwobr i CAA
Ymgasglodd cyhoeddwyr Cymru yn Aberystwyth ar nos Iau, y 15fed o Fawrth, ar gyfer achlysur arbennig i gyflwyno Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi. Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd gwobr y gwerthwr gorau yn yr adran llyfrau Cymraeg i blant i CAA. Y gyfrol a hawliodd y wobr hon i’r cwmni oedd Patagonia, gan Sioned V. Hughes.
Addasiadau Cymraeg o’r gyfres ‘The Mole Sisters’
Bu Catrin Elan, myfyrwraig yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, ar brofiad gwaith gyda CAA a chafodd y cyfle i addasu deg o lyfrau bach The Mole Sisters i’r Gymraeg. Cawsant eu cyhoeddi wythnos cyn iddi raddio o’r Brifysgol.
Lansio 'Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes'
Pwyll ap Siôn a Gareth Bonello yn lansio cyfrol newydd - Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes - yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Llyfrau CAA ym Mhatagonia!
Yn ddiweddar, cyhoeddodd CAA gyfres o lyfrau ffeithiol am ddaearyddiaeth chwe gwlad - un ohonynt ar Batagonia.