Cefnogaeth a Gwybodaeth i Fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf

 

 

Canolfan Croesawu Myfyrwyr

Yn ganolog i'r gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth mae'r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr a leolir ar Gampws Penglais. Cynigir gwasanaeth yn Gymraeg gan rai o dîm y dderbynfa, yn cynnwys cefnogaeth megis llenwi ffurflenni a'ch cyfeirio at ddarpariaeth briodol ym maes cyllid, anableddau, iechyd, gofal plant a chymorth dysgu. Mae'r ganolfan ar agor rhwng 9.00y.b. a 4.30y.p. rhwng dydd Llun a dydd Iau, a rhwng 9.00y.b. a 4.00y.p. ar ddydd Gwener; ceir cyfnod 'taro i mewn' ar brynhawn Mercher rhwng 2y.p. a 4.30y.p .  Cysylltwch ar 01970 621761.

Cefnogaeth gan Staff yr Adran

Ysgrifenyddes Adran y Gymraeg - Miss Rhian Haf Owen; dyma eich cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau
(rho@aber.ac.uk / 01970 622137).

Pennaeth Adran - Yr Athro Patrick Sims-Williams (pps@aber.ac.uk); cysylltwch ag Ysgrifenyddes yr Adran, Rhian Haf Owen er mwyn gwneud apwyntiad.

Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig - Dr Ian Hughes (ixh@aber.ac.uk); cyswllt ar gyfer holl faterion academaidd.

Gweinyddydd Adrannol - Mrs Elena Gruffudd (elg@aber.ac.uk); cyswllt ar gyfer gwahanol agweddau ar gefnogi myfyrwyr.

Cydlynydd Anabledd - Dr Mihangel Morgan (mim@aber.ac.uk)

Tiwtoriaid Personol - nodir pwy yw eich tiwtor Personol ar eich cofnod myfyriwr.

Eich Tiwtor Personol

Fel rhan o ddarpariaeth fugeiliol Adran y Gymraeg dewisir aelod o staff yr Adran yn Diwtor ar gyfer pob myfyriwr. Bydd eich Tiwtor yn gofyn ichi ddod i’w weld yn ystod pythefnos cyntaf y tymor (drwy ebost neu drwy gerdyn neu lythyr atoch yn y blychau post yn y cyntedd y tu allan i Swyddfa’r Adran).

Fel rheol bydd yr aelod hwnnw/honno o’r staff yn gweithredu fel eich Tiwtor drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr israddedig, oni bai eich bod yn gwneud cais i Bennaeth yr Adran am ei newid. Bydd eich Tiwtor yn gofyn ichwi ddod i’w weld o leiaf unwaith yn ystod pob semester, fel rheol yn ystod yr wythnosau cyntaf. Yn ogystal bydd eich Tiwtor yn dynodi awr (neu fwy) yn ystod yr wythnos pan fydd ar gael ei fyfyrwyr ddod i’w weld heb drefniant blaenorol.

Os bydd gwir argyfwng gellwch hefyd, wrth gwrs, drefnu i weld eich Tiwtor ar unrhyw adeg arall (gellwch gysylltu â’ch Tiwtor yn uniongyrchol neu drwy Miss Rhian Haf Owen, Ysgrifenyddes yr Adran (rho@aber.ac.uk / 01970 622137).

Y Cynllun Datblygiad Personol

Mae cefnogaeth i’ch Cynllun Datblygiad Personol ar gael gan aelodau staff yr adran trwy ein cynllun Tiwtorial Personol, ac mae cyngor arbenigol ar yrfaoedd ar gael gan staff Gwasnaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Mae CDP wedi ei fewnosod yn Blackboard a gallwch gysylltu yn uniongyrchol ag adnoddau ar-lein sydd wedi eu dewis yn ofalus i gefnogi eich trawsnewid o gartref i brifysgol, sgiliau astudio, gwaith academaidd a chynllunio gyrfaol.

'Dechrau gyda'ch Portffolio CDP - Cyfarwyddiadau 'Sut i Wneud' i Fyfyrwyr' (pdf).

Bydd myfyrwyr iaith gyntaf yn cwblhau dwy dasg sy’n rhan o’r CDP fel rhan o’r modiwl CY10410 - Seminarau Iaith a Llên, ac yn achos myfyrwyr ail iaith gosodir aseiniad sy’n rhan o fodiwl CY12220 – Cymru Iaith a Diwylliant.

Am fwy o fanylion edrychwch ar Y Cynllun Datblygiad Personol yn Adran y Gymraeg ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Cynhelir cyfarfod am 2.00 o'r gloch ar brynhawn Iau, 3 Tachwedd 2011, yn yr Ystafell Fathamateg, Yr Hen Goleg, i gyflwyno'r Cynllun Datblygiad Personol.

 

Adnoddau yn yr Hen Goleg

Lleolir Ystafell Gyfrifiaduron yr Hen Goleg yn Ystafell y De 2 ac mae ar gael yn ystod y tymor rhwng 9.00y.b.hyd 21.45y.h. Ceir cyfrifiaduron, argraffydd lliw a sganiwr yn Llyfrgell yr Hen Goleg yn ogystal, ac yma hefyd ceir gweithfan gyfrifiadurol a sganiwr ar gyfer Defnyddwyr Cerdyn Gwyrdd Cofrestredig. Dilynwch  y ddolen ganlynol am wybodaeth ynghylch Llyfrgell yr Hen Goleg sy'n cynnig ystafell ddarllen hwylus ac iddi nifer o lyfrau a chyfeirlyfrau a chasgliad Thomas Jones; mae detholiad o gylchgronau i'w cael yn yr Adran hefyd:

Llyfrgell Hugh Owen

Sesiynau Ymgyfarwyddo â Llyfrgell Hugh Owen i fyfyrwyr Adran y Gymraeg

Cynhelir sesiynau hyfforddi arbennig ar gyfer myfyrwyr newydd yr Adran dan ofal Mr Elgan Davies (Llyfrgellydd-yng-ngofal yr Hen Goleg) yn yr Ystafell Hanes, Yr Hen Goleg ar brynhawn Mercher, 12fed o Hydref (sesiynau Cymraeg am 2.00y.p. a 3.00y.p). Fe'ch gosodir mewn grwpiau ar gyfer y sesiynau hyn - manylion yn eich pecyn croesawu.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ceir casgliad dihafal o lawysgrifau, llyfrau a chylchgronau yn y Llyfrgell Genedlaethol a dwy Ystafell Ddarllen ddymunol dros ben. Dilynwch y ddolen am fanylion ynghylch tocyn darllen ac ati.

Adnoddau eraill

Adnoddau Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg:
http://www.aber.ac.uk/cy/cgg/translation-and-support/language-resources

Adnoddau Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (Y Porth)
http://www.porth.ac.uk/cy

 

 

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Mae Adran y Gymraeg yn un o’r adrannau gorau yn y brifysgol o safbwynt niferoedd y graddedigion sy’n llwyddo i gael gwaith ar lefel graddedig chwe mis ar ôl graddio.Yn ogystal, yn ôl arolwg Cyrchfannau Graddedigion mae llai o fyfyrwyr Adran y Gymraeg yn ddi-waith chwe mis ar ôl graddio na'r cyfartaledd cenedlaethol.  Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu mwy am leoliadau GO Wales a'r Flwyddyn Mewn Gwaith er mwyn ennill profiad gwaith gwerthfawr yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Bydd sawl aelod staff yno yn barod i'ch cynghori yn Gymraeg.

Dilynwch y ddolen ganlynol am ragor o fanylion am y Gwasanaeth Gyrfaoedd : www.aber.ac.uk/careers/fresher

Swyddog Cyswllt yr Adran â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yw Dr Bleddyn O. Huws (boh@aber.ac.uk)

Ffair Yrfaoedd

Trefnir Ffair Yrfaoedd Cyfrwng Cymraeg yn Undeb y Myfyrwyr ar 17 Tachwedd 2010 er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau dwyieithog yn y gweithle. Bydd cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn y digwyddiad. Am fwy o fanylion cysyllter â'r Swyddog Cydlynu'r Ddarpariaeth Gymraeg, Dr Tamsin Davies (ted@aber.ac.uk).

Cyllid

Mae cyngor ar gael ar bob math o faterion yn ymwneud â chyllid. Gallwch wneud apwyntiad i drafod materion ariannol drwy alw heibio’r Dderbynfa ar 3ydd llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr.

Cyllid

Arian Myfyrwyr

Am ragor o wybodaeth ynghylch ffioedd a benthyciadau ewch draw i wefan
Cyllid Myfyrwyr Cymru