Dadansoddi Data Gwefan
Cyflwyniad
Er mwyn datblygu a gwella ansawdd gwefan ganolog Prifysgol Aberystwyth*, mae'r data ynghylch y defnydd a wneir o'r wefan yn cael ei gasglu a'i ddadansoddi. Cesglir rhywfaint o'r data drwy weinydd y we (y cyfrifiadur sy'n cynnal y wefan) a chesglir data arall drwy ddefnyddio cwcis** sy'n cael eu hanfon at we-borwr y sawl sy'n ymweld â gwefan.
Cwcis
Mae defnyddio cwci i gofnodi'r defnydd a wneir o wefannau yn dechneg hirsefydlog a ddefnyddir yn eang. Mae pob cwci yn darparu gwybodaeth i ddangos sut mae'r sawl sy'n ymweld yn symud o un tudalen i'r llall, ond ni chedwir data personol ar y system lwybro. Enw'r system lwybro a ddefnyddir ar wefan ganolog Prifysgol Aberystwyth yw Google Analytics.
Defnyddir y data a gesglir gan gwcis ar y wefan ganolog yn bennaf gan Dîm y We, ond hefyd gan yr Adran Farchnata. Ar brydiau bydd y data ar gael i aelodau eraill o staff y sefydliad. Fel darparwr y gwasanaeth gall Google hefyd edrych ar y data (am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen we Google Privacy Policy).
Gwrthod Cwcis
Ar y wefan ganolog mae modd gosod eich dewisiadau er mwyn gwrthod cwcis. Er mwyn gwneud hyn ewch i'r dudalen we Site Preferences a thiciwch y blwch “Peidiwch â chasglu data drwy Google Analytics”.
Dewis arall fyddai gosod eich gwe-borwr i wrthod pob cwci. Os ydych chi'n penderfynu gwneud hyn gallwch barhau i ddefnyddio gwefan ganolog Prifysgol Aberystwyth, ond o wneud hynny byddwch yn colli elfen o weithredu nad yw'n hanfodol (e.e. ni ellir cofio dewisiadau'r defnyddiwr). Cewch y wybodaeth am sut i analluogi cwcis ar y dogfennau cymorth ym meddalwedd eich porwr.
* Y tudalennau gwe sydd ar wefan ganolog Prifysgol Aberystwyth yw'r rhai gyda chyfeiriadau sy'n dechrau â http://www.aber.ac.uk/en/ neu http://www.aber.ac.uk/cy/. Un eithriad i hyn yw'r dudalen dewis iaith sydd â'r cyfeiriad http://www.aber.ac.uk/
** Darn bach o wybodaeth yw 'cwci' ar ffurf ffeil destun, sy'n cael ei hanfon gan weinyddydd gwe a'i storio ar gyfrifiadur y sawl sy'n ymweld â gwefan. Gall y gweinyddydd wedyn ei ddarllen yn ôl yn nes ymlaen pan fo angen.