Newyddion
![]() |
Y Bwrdd Ymgynghori ar Ddatblygu yn Aber Gwnaeth Bwrdd Ymgynghori ar Ddatblygu y Brifysgol ymweld ag Aberystwyth ddydd Gwener 7 Hydref, newid dymunol i’r lleoliad arferol yn Llundain. Rhoddodd penaethiaid yr adrannau a staff o blith yr uwch reolwyr amlinelliad i aelodau’r Bwrdd o’r gweithgareddau presennol yn Aber, ac wedyn cafodd pawb fwynhau derbyniad a swper ym mwyty Medrus ar Gampws Penglais. Trefnwyd taith o amgylch y campws ac ymweliadau ag adrannau academaidd ar gyfer y bore dydd Sadwrn, a gwnaeth rhai aelodau o’r Bwrdd fwynhau mynd ar eu teithiau eu hunain o amgylch y dref a hen gynefinoedd o’u dyddiau yma fel myfyrwyr. |
|
Dathlu ethol cyn-fyfyrwyr Aber yn Aelodau Cynulliad Cynhaliodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Brifysgol, dderbyniad yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Mawrth 4 Hydref i ddathlu ethol deg o gynfyfyrwyr Aber i Gynulliad Cymru ac i gyflwyno’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon. Siaradodd y Llywydd, yr Is-Ganghellor a’r Prif Weinidog (Carwyn Jones, un o gynfyfyrwyr Aber) yn gynnes iawn am Aber a’i dyfodol o flaen cynulleidfa frwdfrydig o gynfyfyrwyr Caerdydd ac Aelodau Cynulliad. |
![]() |
![]() |
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 Daeth Prifysgol Aberystwyth a Chymdeithas y Cynfyfyrwyr ynghyd eto i gynnal aduniad ym mhabell y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a’r Fro 2011. Mae’r aduniad wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol gyda thyrfa fawr yn dod draw i fwyta, yfed, bod yn llawen a gwrando ar siaradwr gwadd. Eleni gwnaeth Nic Parry (Barnwr yn Llys y Goron a sylwebydd chwaraeon) ddifyrru pawb yn ei ffordd ddihafal ei hun, ond roedd llawer o bobl wedi dod yno i glywed yr Is-Ganghellor newydd, yr Athro April McMahon, yn cyflwyno ei haraith gyhoeddus gyntaf yn Gymraeg ar ôl tri diwrnod yn unig yn ei swydd newydd. Er gwaethaf rhywfaint o nerfau, a oedd yn ddealladwy, cyflwynodd ei haraith yn fedrus, gan ennill parch a chreu argraff ar gynulleidfa allweddol! (Os byddwch chi ar y Maes ym Mro Morgannwg yn 2012, ymunwch â ni am groeso cynnes gan Aber.) |
|
Sioe Frenhinol Cymru 2011 Cynhaliodd Kay Powell, Llywydd Cymdeithas y Cynfyfyrwyr, dderbyniad yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ym mis Gorffennaf. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ar ddydd Mawrth y Sioe yn y Pafiliwn Addysg ar faes y sioe, sydd nid yn unig yn rhoi cipolwg defnyddiol o’r ymchwil yn IBERS a lluniaeth blasus, ond hefyd golygfa ddyrchafedig hyfryd o’r prif gylch. (Rhowch wybod i ni os hoffech ymuno â ni’r flwyddyn nesaf!) |
![]() |



