Cic Arall I'r Bar
Cic Arall i'r Bar 2012
17eg-19fed Awst
Bydd Cic Arall i’r Bar 2012 yn fwy ac yn well nag erioed. Yn ogystal â’r teithiau, y twmpathau a’r BBQ yn TaMed Da, mae gennym draeth, coctels a Sinema; digwyddiadau i’r teulu, danteithion a chelfyddyd gain, newyddbethau, hanes natur a hiraeth; a llwybrau cerdded, y môr a’i donnau.
Mae’r penwythnos hefyd yn cynnwys rhaglen lawn o ddigwyddiadau CCF yn cynnwys y Cinio Blynyddol a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a dathliadau i nodi cefnogaeth ein cyfranwyr a’r rhai a raddiodd dros 50 mlynedd yn ôl.
Er mwyn gweld rhaglen Cic Arall i'r Bar plis cliciwch fanhyn
Ystyried cyfarfod â’ch hen gyfeillion coleg? Trefnu aduniad answyddogol? Beth am fanteisio ar lety rhâd y Brifysgol, mynediad i lawer o weithgareddau ychwanegol, a’r cy_ e i gyfarfod â hyd yn oed mwy o’ch cyfoedion drwy gynnal eich digwyddiad ar yr un pryd â Cic Arall i’r Bar?
- Tocyn Cic Arall I'r Bar ar gyfer pobl dros 16 mlwydd oed - £25
- Tocyn Cic Arall I'r Bar ar gyfer pobl o 6-15 mwlydd oed - £12.50
- Tocyn Cic Arall I'r Bar ar gyfer pobl o dan 5 mwlydd oed - Am ddim
- Cinio Blynyddol CCF - £40
- Llety yn neuadd breswyl Y Prifysgol - £20 y person y nos
Plis cliciwch fanyn er mwyn archebu tocynnau.