Croeso
Croeso i’r wefan Datblygu a Chysylltiadau Alumni. Yma cewch hyd i bopeth sydd arnoch angen ei wybod am weithgareddau ac adnoddau’r alumni yn ogystal â’n cynlluniau datblygu.
Mae’r Swyddfa Ddatblygu yma i’ch helpu, pa un ai eich bod eisiau cadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr, defnyddio rhwydwaith Aber o dros 56,000 o gyn-fyfyrwyr mewn dros 50 o wledydd, cael cyngor gyrfaol ar ddechrau neu ar ganol eich gyrfa gan raddedigion eraill yn eich maes o Aber, neu ddathlu eich amser yn Aber trwy raglen o aduniadau, cyfarfodydd daearyddol a phroffesiynol, grwpiau buddiant a gweithgareddau chwaraeon.
Dyma’r lle hefyd i gael gwybod sut y gallwch chi ein helpu ni. Mae cefnogi Aber mor bwysig ag erioed, ac mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu ein myfyrwyr a’n graddedigion ifanc i astudio, cyflawni a dod o hyd i swydd, yn ogystal â gwella’r adnoddau y gallwn eu cynnig er mwyn parhau i fod yn flaenllaw o ran ymchwil.
Yn ôl i flaenddalen y Swyddfa Ddatblygu
Y Cynllun Arian Cyfatebol
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cyhoeddi cynllun arian cyfatebol ar gyfer yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a fydd yn rhedeg o 2009-2012. Yn rhan o’r cynllun hwn, bydd Aber yn cael 50c am bob punt a roddir i’r Brifysgol yn ddyngarol yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu Aber: “Dyma gyfle gwych i ni fanteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth yr ydym yn ei chael gan yr alumni, yr ymddiriedolaethau sy’n creu grantiau, y sector corfforaethol a ffrindiau eraill y Brifysgol. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn llwyddo i roi o’u gorau gan wybod y gallwn ychwanegu gymaint at eu rhodd.”