Cynllun Strategol

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gynllun cefnogol allweddol sy’n rhoi sylfaen i Gynllun Strategol creiddiol y Brifysgol.

Ein nod yw meithrin cymuned dysgu a gweithio sy’n gynhwysol ac yn ddwyieithog ac sy’n rhydd o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, lle mae ein staff a’n myfyrwyr i gyd (sef ein “cymuned”) yn:

  • Teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn perthyn.
  • Cael eu cynnwys ac yn cael eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.
  • Cael eu parchu a’u gwerthfawrogi heb deimlo bod angen cuddio unrhyw agweddau ar eu hunaniaeth go iawn.

Darllenwch y Cynllun yma: Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028