Rheoli Risg Corfforaethol
Fframwaith Rheoli Risg
Yn rhan o arfer da o ran rheolaeth, mae Prifysgol Aberystwyth wedi mabwysiadu fframwaith rheoli risg i helpu i gymhwyso egwyddorion rheoli risg ledled y sefydliad. Mae’r fframwaith yn dilyn y dull gweithredu canlynol: Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu, sy’n gyson â safonau rheoli rhyngwladol ac yn debyg i’r dull a ddefnyddir mewn gweithgareddau asesu risg presennol sy’n seiliedig ar ansawdd megis Dysgu, Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol.
Cyflwynwyd y fframwaith rheoli risg ym mis Hydref 2009 ac mae’n gofyn i holl Benaethiaid yr Adrannau gyflwyno Datganiad Rheoli Risg Adrannol bob blwyddyn a llenwi a chynnal Cofrestr Risg adrannol. Y dogfennau hyn sy’n rhoi sail i gadarnhad yr Is-Ganghellor i’r Cyngor bod y Brifysgol yn cael ei rheoli’n briodol, o fewn terfynau derbyniol a bod ganddi brosesau digonol i barhau i wneud hynny.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y prosesau rheoli risg cysylltwch â Clover Winton-Polak, Ysgrifenyddes Pwyllgor Rheoli Risg .
E-bost: cvw@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 82(3004)
Pwyllgor Rheoli Risg
Mae’r Pwyllgor Rheoli Risg yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a dogfennau risg yr adrannau.
Aelodau
Rebecca Davies
Lucy Hodson
Peter Curran
Andy Henley
Jo Strong
Roger Matthews
Jim Wallace
Gary Reed
Lyn Morgan
System Rheoli Risg Polisi a Gweithdrefnau (Mehefin 2011)
Cofrestr Risg Corfforaethol
Adolygir a diweddarir y Gofrestr Risg Corfforaethol yn gyson gan y Pwyllgor Rheoli Risg.
Gwybodaeth Gyffredinol am Reoli Risg
CCAUC - Polisi a Chanllawiau Rheoli Risg / HEFCW - Risk Management Policy and Guidelines