Gwybodaeth i Uwchraddedigion
Mae’r adran yn cynnig dau brif lwybr ar gyfer astudiaethau uwchraddedig, sef MA trwy gwrs, y ceir nifer o wahanol fathau ohono, yn canolbwyntio ar gyfnodau a themâu, a graddau ymchwil (M.Phil a PhD). Mae’r tudalennau a ganlyn yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth uwchraddedig yr adran, ar gyfer myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr uwchraddedig.
- Cynlluniau gradd uwchraddedig trwy gwrs: MA
- Graddau ymchwil: M.Phil a Ph.D
- Hysbyseb ysgoloriaeth PhD: Grant Leverhulme
- Uwchraddedigion Ymchwil yr Adran
- Traethodau Uwchraddedig ar y gweill 2009
- Traethodau Uwchraddedig ar y gweill 2011
Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth : ysgoloriaethau PhD newydd ar gyfer 2013
Mae’n bleser gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth gyhoeddi hyd at dair ysgoloriaeth PhD newydd ar gyfer 2013, o dan gynllun Ysgoloriaethau Doethurol i Ddatblygu Gyrfa (DCDS) y Brifysgol.
Mae’r ysgoloriaethau DCDS yn cynnig pecyn o ymchwil, hyfforddiant a datblygu gyrfa i fyfyrwyr PhD amser-llawn, sydd wedi’u teilwra i alluogi i fyfyrwyr wella eu sgiliau trosglwyddadwy, ymchwil ac addysgu.
Mae’r Adran yn cynnig hyd at dair ysgoloriaeth o dan y cynllun DCDS. Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn talu’r holl ffioedd dysgu am dair blynedd y PhD i fyfyrwyr o’r DU/UE, ac yn cyfrannu hyd at £3900 y flwyddyn i fyfyrwyr nad ydynt yn dod o’r DU/UE.
Bydd myfyrwyr sy’n cael yr ysgoloriaethau yn cytuno i gyfrannu at waith yr Adran yn rhan o’r ysgoloriaeth PhD (er enghraifft addysgu, ymchwil, gwaith golygyddol, lleoliadau, neu unrhyw gyfleoedd datblygu personol eraill priodol).
I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi:
- gael gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch o leiaf yn eich gradd gyntaf, ac yn astudio ar gyfer, neu wedi cwblhau, gradd Feistr mewn pwnc priodol
- wneud cais a chael cynnig lle i astudio gradd ddoethuriaeth yn Aberystwyth
- gyflawni 7.0 yn IELTS, neu gymhwyster cyfwerth, fel sy’n arferol i fyfyrwyr nad ydynt o’r DU (cyn diwedd mis Mawrth 2013 fan bellaf)
- ddechrau ar eich astudiaethau doethurol ym mis Medi 2013
Dyddiad cau: Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 1 Mehefin 2013. Bydd pob cais PhD a anfonir at yr Adran Hanes a Hanes Cymru erbyn y dyddiad hwn yn cael ei ystyried yn awtomatig ar gyfer yr ysgoloriaethau DCDS hyn.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mrs Rebecca Rock, rxs@aber.ac.uk, Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth.