Arlwyo yn y Lletyau

Y mae myfyrwyr mewn Llety sy'n Arlwyo Penbryn a Pantycelyn yn aelodau o'r cynllun Cerdyn Teyrngarwch yn awtomatig ac yn derbyn Cerdyn Debyd unwaith iddynt gyrraedd y llety. Gellir defnyddio'r cerdyn teyrngarwch i dalu am fwyd a diod yn y rhan fwyaf o'n lleoedd bwyta.

Mae ffioedd yr holl lety arlwyo yn cynnwys elfen benodol i dalu costau hyd at ddau bryd bwyd y dydd sy'n rhoi i'r myfyriwr yr hyblygrwydd o ddewis ble a phryd i fwyta.

Gall myfyrwyr ychwanegu at werth y Cerdyn Teyrngarwch os dymunant.

Llety arlwyo - ateb eich cwestiynau...

  • Beth yw'r manteision i fi?
  • Sut mae rhoi arian ar y Cerdyn?
  • Pryd y gallaf i ddefnyddio'r Cerdyn?
  • Beth sy'n digwydd os bydd fy nghredyd yn dod i ben?
  • Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y tymor?
  • Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y flwyddyn?
  • Beth sy'n digwydd os rhoddwyd taliadau ychwanegol ar y cerdyn?
  • Beth fydd yn digwydd os tynnaf yn ôl o'm llety arlwyo yn ystod y flwyddyn?
  • Beth sy'n digwydd os bydd rhywun arall yn defnyddio'r cerdyn?
  • Rwy wedi colli neu dorri fy ngherdyn – beth ddylwn i ei wneud?

Gair i'r Gall

  • Edrychwch ar eich balans yn rheolaidd i'ch helpu chi i gynllunio eich gwario.
  • Dylech osgoi gwneud taliadau ychwanegol mawr os ydych ar fin gadael – ni fyddwn yn talu arian yn ôl.
  • Cofiwch bydd y lwfans gwreiddiol yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y tymor terfynol.
  • Cadwch y cerdyn at y flwyddyn nesaf. Cewch roi'ch arian eich hun arno a chael yr un gostyngiadau.