Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb, yn ymdrechu i fod yn gynhwysfawr, gan werthfawrogi natur amrywiol ei staff, ei myfyrwyr a'i chymuned.
Os hoffech chi gael y wybodaeth hon mewn fformat arall, e.e. Braille, Trawsgrifiad Sain, ac ati, cysylltwch â Ms. Olymbia Petrou ar 01970 62 8598 neu opp@aber.ac.uk.
Holiadur Cydraddoldeb
Mae Prifysgol Aberystwyth wrthi’n datblygu Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol a fydd yn ceisio hyrwyddo a gwella cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Dymunwn gael adborth dienw gan staff a myfyrwyr er mwyn clywed am eich profiadau chi ac er mwyn ein cynorthwyo ni i ddeall anghenion y Brifysgol.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn cwblhau’r holiadur cyfrinachol byr hwn. Fe fydd gwneud hynny yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ddatblygu ein cynllun ac amcanion cydraddoldeb.
Polisïau Cydraddoldeb
Adroddiadau Cydraddoldeb
Amrywiaeth Yn Y Gweithle Cwrs E-Ddysgu
Gwybodaeth Bellach
Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb
Datganiad y Tic Dwbl:
Mae PA wedi’i hachredu â symbol 'Y Tic Dwbl - yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl' ers 2003. Mae'r symbol yn dangos y gydnabyddiaeth a roddir gan y Ganolfan Byd Gwaith i sefydliadau sydd wedi dangos eu hymrwymiad i arfer da wrth gyflogi pobl anabl. Ceir rhagor o wybodaeth am y Tic Dwbl ar wefan DirectGov.
