Negeseuon allan-o'r-swyddfa
Fel arfer, mae Cynlluniau Iaith Gymraeg yn annog eu staff i roi ymatebion allan-o’r-swyddfa ar eu systemau e-bost. Isod mae enghreifftiau o wahanol ymatebion allan-o’r-swyddfa y gellir eu copïo a’u pastio i mewn i’ch ymatebion. Cliciwch am gopi argraffadwy.
| Thank you for your message | Diolch am eich neges. |
| I am on leave until [xx/xx/xx]. | Rwyf ar fy ngwyliau tan [xx/xx/xx]. |
| I will be away from the office until [xx/xx/xx]. | Ni fyddaf yn y swyddfa tan [xx/xx/xx] |
| I am out of the office today on a training course. | Rwyf allan o'r swyddfa heddiw ar gwrs hyfforddi |
| I am working at home [today / this morning / this afternoon / this week]. | Yn gweithio gartref [heddiw / y bore 'ma / y prynhawn 'ma / yr wythnos yma]. |
| I will be working at home on [xx/xx/xx]. | Yn gweithio gartref ar [xx/xx/xx]. |
| Out of the office most of [Monday / Tuesday / Wednesday / Thursday / Friday]. | Allan o'r swyddfa y rhan fwyaf o ddydd [Llun / Mawrth / Mercher / Iau / Gwener]. |
| At a conference in [Swansea] today. | Mewn cynhadledd yn [Abertawe] heddiw. |
| At a meeting in [London] today. | Mewn cyfarfod yn [Llundain] heddiw. |
| In meetings [for most of the day / all day]. | Mewn cyfarfodydd [am y rhan fwyaf o'r dydd / drwy'r dydd]. |
| Back in the office on [xx/xx/xx]. | Nôl yn y swyddfa ar [xx/xx/xx]. |
| In the meantime, please contact [xxxxxxxx]. | Yn y cyfamser, cysylltwch â [xxxxxxxx]. |
| If urgent, please contact [xxxxxxxx]. | Os oes brys, cysylltwch â [xxxxxxxx]. |
| If your e-mail can't wait until [Monday / Tuesday / Wednesday / Thursday / Friday], you should contact [xxxxxxx] on ext [xxxx]. | Os na all eich e-bost aros tan ddydd [Llun / Mawrth / Mercher / Iau / Gwener] dylech gysylltu â [xxxxxxx] ar est [xxxx]. |
| I will deal with e-mails on my return. | Byddaf yn delio â'r e-bost ar ôl dychwelyd |
| Your e-mail has been forwarded to [xxxxxxxx]. | Mae eich e-bost wedi cael ei anfon ymlaen at [xxxxxxxx]. |
| Your message is not being forwarded. | Nid yw eich neges yn cael ei anfon ymlaen |
| Your message has not been deleted. | Nid yw eich neges wedi cael ei ddileu. |
| Your message has not been deleted or auto-forwarded. | Nid yw eich neges yn cael ei ddileu neu ei anfon ymlaen. |
| Somebody will be checking my e-mails each day. | Bydd rhywun yn darllen fy e-byst bob dydd. |
Dyddiau'r Wythnos Misoedd
| Monday Dydd Llun | January Ionawr | July Gorffennaf |
| Tuesday Dydd Mawrth | February Chwefror | August Awst |
| Wednesday Dydd Mercher | March Mawrth | September Medi |
| Thursday Dydd Iau | April Ebrill | October Hydref |
| Friday Dydd Gwener | May Mai | November Tachwedd |
| June Mehefin | December Rhagfyr |