Cynllun Strategol yr Adran Adnoddau Dynol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod swyddogaeth allweddol ei staff wrth iddynt gyflawni’r dyheadau a’r nodau strategol a amlinellir yn natganiad cenhadaeth a chynllun strategol y Brifysgol. Nod Cynllun Strategol yr Adran Adnoddau Dynol yw cefnogi strategaeth gyffredinol y Brifysgol, a’r amcan yw creu amgylchfyd lle gall pob aelod o’r staff gyflawni’i lawn botensial er mwyn darparu addysg ragorol a chynnal gwaith ymchwil o’r radd flaenaf, yn ogystal â rhoi gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i gefnogi’r busnes craidd.

Yr hyn sy’n sail i’r strategaeth yw ymchwil a gomisiynwyd gan Gymdeithas Bersonél y Prifysgolion (UPA) ac a gyflawnwyd gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a arweiniodd at gyhoeddi ‘Arwain Adnoddau Dynol tuag at berfformiad o ansawdd uchel mewn addysg uwch’ ym mis Mehefin 2008.

Mae’r Cynllun Strategol yn nodi pum blaenoriaeth neu amcan strategol ac yn sail iddo mae Cynllun Gweithredu’r Adnoddau Dynol, sy’n nodi gofynion gweithredol y mae’n rhaid eu bodloni i gyflawni’r Cynllun.

Dyma’r pum amcan strategol;

  • darparu gwasanaeth Adnoddau dynol effeithiol drwy’r Model Partner Busnes
  • gwella perfformiad y staff
  • cryfhau cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • denu, datblygu a chadw talent
  • creu gallu sefydliadol