Astudio yn IBERS
Mae IBERS yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am fod yn ganolfan ragoriaeth ac yn ddewis amlwg i fyfyrwyr sydd am astudio’r gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig.
BODLONRWYDD MYFYRWYR
“Am y chweched flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Cafodd Prifysgol Aberystwyth sgôr o 4.4 (ar raddfa o 1-5 o ran bodlonrwydd myfyrwyr0 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr ail sgôr uchaf i unrhyw Brifysgol breswyl gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac ychydig y tu ôl i Rydychen. Yn gyffredinol, mae’r arolwg hefyd yn gosod Aberystwyth yn y pumed lle o blith holl Brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr ac ar y brig yng Nghymru am y chweched blwyddyn yn olynol. Roedd pob un o raglenni IBERS wedi sgorio’n gry’ iawn gyda 4.5 neu fwy am fodlonrwydd cyffredinol.”YMCHWIL ÔL-RADD
Y gofyn fel rheol ar gyfer rhaglen PhD dair-blynedd yw gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc sy’n berthnasol i faes arfaethedig yr ymchwil. Gradd anrhydedd dda yw’r gofyn hefyd am le ar y cynllun dwy-flynedd sy’n arwain at y radd MPhil. Mae croeso hefyd i geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed a gan bobl sydd heb radd ond sydd â phrofiad perthnasol sy’n cwrdd â gofynion mynediad y Brifysgol.CYRSIAU ISRADDEDIG
- Amaeth
- Gwyddor Anifeiliaid/Swoleg
- Biocemeg
- Bioleg
- Biowyddorau Amgylcheddol ac Ecoleg
- Cadwraeth/Rheolaeth Cefn Gwlad
- Gwyddor Ceffylau
- Geneteg
- Bioleg y Môr a Dŵr Croyw
- Microfioleg
CYRSIAU ÔL-RADD SY’N CAEL EU DYSGU
Ochr yn ochr â’r ddau gwrs MSc poblogaidd sydd eisoes yn cael eu cynnal yn IBERS, bydd tri chwrs MSc newydd yn dechrau ym mis Medi 2011.
MSc mewn Sicrwydd Bwyd a Dŵr Cwrs Newydd
MSc Gwyddor Anifeiliaid Cwrs Newydd
MSc Gwyddor Da Byw Cwrs Newydd
MSc Rheoli’r Amgylchedd
MSc Gwyddor Ceffylau