E-ddysgu

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant trwy gyfrwng technoleg i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Rydym yn argymell defnyddio Firefox neu Chrome ar gyfer Blackboard, Panopto a Turnitin. 

Gwelwch ein Awgrymiadau Dysgu at Gysondeb Ddysgu ac Addysgu [dolen] 

Gwelwch ein CAF ar Barhad Dysgu ac Addysgu [dolen]  

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost (eddysgu@aber.ac.uk) neu ffonio (01970) 62 2472.  

Cymerwch olwg ar ein: 

Cliciwch ar y gwahanol deils isod i ddysgu mwy am y gwasanaethau a’r gefnogaeth yr ydym yn eu cynnig. 

Rydym yn trefnu ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi gynhwysfawr trwy gydol y flwyddyn sy’n galluogi staff i ddysgu am addysgu trwy gyfrwng technoleg:

  • Hyfforddiant yn y dosbarth
  • Ymgynghoriadau
  • Cymorth gan gyfoedion a fforymau trafod
  • Gweminarau
  • Cynadleddau bach
  • Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth

Mae’r Grŵp hefyd yn darparu cyflwyniadau i’r Adrannau sy’n canolbwyntio ar sgiliau addysgu trwy gyfrwng technoleg allweddol i fyfyrwyr megis cyflwyno ar-lein a manteisio i’r eithaf ar eu deunyddiau dysgu ar-lein.

Gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn addysgu trwy gyfrwng technoleg a’n gwybodaeth am y tirlun addysgu addysg uwch, mae’r Grŵp yn cyfrannu at benderfyniadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Brifysgol yn ehangach ynghylch y ddarpariaeth addysgu trwy gyfrwng technoleg drwy Grŵp Addysgu Trwy Gyfrwng Technoleg y Brifysgol (TELG).

Dilynwch ni:

Twitter