Office 365 - E-bost

Mae Office 365 yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio:

  • cleient e-bost ar y we gyda Chalendrau a Chysylltiadau yn rhan ohono – gallwch weld eich e-bost, calendr a chysylltiadau o’ch cyfrifiadur, y we a dyfais symudol o unrhyw fan yn y byd. Rhagor o wybodaeth yn ein Cwestiynau Cyffredin
  • OneDrive gydag Apiau Gwe Office, Word, Excel, PowerPoint, OneNote
  • 50GB o le storio ar Gwmwl ar gyfer eich negeseuon e-bost a’ch dogfennau
  • Cymorth mewn nifer o ieithoedd
  • Microsoft Office, yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Access, Publisher, Outlook, Lync ac Infopath i’w gosod yn rhad ac am ddim ar eich cyfrifiadur eich hun (Sut mae gwneud hynny?)


Diogelwch a Dibynadwyaeth

  • Mae Microsoft wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r holl ddeddfau gwarchod data perthnasol, deddfau preifatrwydd a Deddfwriaeth Harbwr Diogel, ac yn gweithredu polisi diogelu data sy’n cydymffurfio â chyfres safonau rhyngwladol ISO/IEC 27000.
  • Ar ran Prifysgolion y DU, bu’r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth yn cydweithio â Microsoft i sicrhau cydymffurfiaeth â holl ddeddfwriaeth y DU yn gyffredinol a pherswadio Microsoft i gytuno trwy gytundeb i storio data yn y tymor hir o fewn i’r UE, ond nid o reidrwydd yn y DU. Mae’r Brifysgol hefyd yn cadw’r hawl i archwilio’r data.

E-bost, Calendr a Chysylltiadau

Gydag Office 365, gallwch:

OneDrive

Mae pob cyfrif e-bost PA yn cael 50GB o le storio ar gyfer e-byst a ffeiliau. Enw’r gwasanaeth yw OneDrive

OneDrive:

  • Mae’n storio eich ffeiliau yn y cwmwl er mwyn i chi allu cael mynediad iddynt o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
  • Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
  • Mae’n cynnwys yr Apiau Gwe Office:  Excel, Word, PowerPoint ac OneNote er mwyn i chi allu creu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol ac argraffu’n uniongyrchol o’ch porwr
  • Mae’n eich galluogi i rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio OneDrive yn ein Cwestiynau Cyffredin