Gwasanaeth Digideiddio

Golwg Gyffredinol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dal trwydded gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA), sy'n caniatáu i staff y llyfrgell ddigideiddio, neu sganio deunydd i ddibenion dysgu academaidd, yn amodol ar gael caniatâd deiliad yr hawlfraint, cyfyngiadau trwydded, a chronfeydd y ganolfan gostau. Ceir crynodeb o'r drwydded drwy fynd i'r dudalen we https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/digitisation/cla/ 

Mae'r llyfrgell yn darparu'r gwasanaeth digideiddio trwy'r system rhestrau darllen ar-lein, Aspire. Gan weithio o fewn i reoliadau hawlfraint, gellir sganio penodau o lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion a'u cysylltu'n uniongyrchol i'r rhestr ddarllen berthnasol yn Aspire. Mae'r gwasanaeth digideiddio yn defnyddio Storfa Cynnwys Digidol y CLA i sicrhau cydymffurfio â hawlfraint ac i ddarparu'r detholiadau a gafodd eu digideiddio ar ffurf dolenni y gall myfyrwyr eu defnyddio i agor dogfennau PDF.

Mae staff y llyfrgell yn sicrhau cydymffurfio trwy:

  • chwilio i weld a oes cyfyngiadau hawlfraint
  • creu detholiadau digidol proffesiynol a safonol
  • llwytho dolenni'n uniongyrchol i restr ddarllen y modiwl yn Aspire
  • cadw cofnodion ac adroddiadau fel y mae'r drwydded yn mynnu

Manteision - pam digideiddio?

Mae nifer o fanteision i ddigideiddio deunydd. O sicrhau bod deunydd ar gael yn fwy eang fel hyn...

  • gall pob myfyriwr ar y modiwl ddarllen yr eitem/au 24/7 - hyd yn oed os yw'r llyfrgell ar gau
  • gall myfyrwyr dysgu o bell a defnyddwyr oddi ar y campws fynd at yr eitemau pa le bynnag y maen nhw
  • mae llai o bwysau'n cael ei roi ar y stoc benthyca
  • ceir llai o drafferthion oherwydd eitemau coll
  • mae adnoddau'r llyfrgell yn darparu ar gyfer anghenion yn fwy effeithiol
  • Gallwn fod yn sicr ein bod yn cydymffurfio ag amodau trwydded sganio'r CLA - gallai torri amodau'r drwydded arwain at golli trwydded, cosbau a dirwyon
  • mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddarllen yn ehangach
  • mae deunydd sydd ar hyn o bryd ddim ond mewn print ar gael i fwy o fyfyrwyr

Digideiddio pennod/penodau o lyfrau 

Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth i ddigideiddio pennod/penodau o lyfrau printiedig yn y Llyfrgell. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaeth a'r ffurflen gais drwy fynd i https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/digitisation/chapterdigitisation/

Rhagor o wybodaeth