Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

Amhariad ar Wasanaeth y Llyfrgell Brydeinig

Mae amhariad technegol yn effeithio ar y Llyfrgell Brydeinig ar ôl ymosodiad seiber. Effeithiwyd ar eu gwefan ac ar y systemau a’r gwasanaethau ar-lein. Disgwylir i’r amhariad ar rai gwasanaethau penodol bara am nifer o fisoedd.

Gwneir pob ymdrech i gyflenwi ceisiadau am lyfrau ac erthyglau trwy sefydliadau eraill ond disgwylir oedi wrth brosesu a chyflenwi ceisiadau am Ddogfennau o’r Llyfrgell Brydeinig.

Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid y Llyfrgell Brydeinig wedi rhoi gwybod na fydd taliadau’n cael eu codi am adnewyddu llyfrau.

Os oes gennych gyfrinair i wasanaethau’r Llyfrgell Brydeinig sy’n cael ei ddefnyddio gennych ar wefannau eraill, mae’r Llyfrgell yn argymell ichi ei newid yn y mannau eraill hynny rhag ofn.

 

Mae gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol. I sicrhau nad yw'r eitem ar gael yn lleol, gwiriwch y canlynol cyn gosod eich cais Cyflenwi Dogfennau:

Dilynwch y linciau isod i wneud cais am:

Ni fydd ceisiadau am fenthyciadau drwy'r Gwasanaeth Cyflewni Dogfennau yn ymddangos ar eich cofnod defnyddiwr ar Primo.

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau defnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar arian sydd ar gael.

Grŵp Defnyddwyr Nifer o ceisiadau Taliadau
Staff Anghyfyngedig Am ddim
Uwchraddedig ymchwil  (Doethuriaeth, MPhil) Anghyfyngedig Am ddim

Uwchraddedig a addysgir  (Gradd Feistr, TAR)

Hyd at 10 ceisiadau am ddim am bob flwyddyn academaidd *

Y 10 cyntaf am ddim, yna taliadau’n berthnasol.

Israddedig

Hyd at 5 ceisiadau am ddim am bob flwyddyn academaidd *

Y 5 cyntaf am ddim, yna taliadau’n berthnasol.

* Os ydych wedi rhagori ar y nifer o geisiadau a ddyrannwyd a hoffech eitemau pellach gan y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau, yna parhewch i gyflwyno eich ceisiadau. Bydd aelod o staff yn rhoi gwybod i chi os ydych yn atebol i dalu unrhyw daliadau ar geisiadau ychwanegol cyn prosesu.

Gall Israddedigion, Uwchraddedigion Ymchwil a Addysgir rhoi cais am lyfr nad sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd drwy'r Gwasanaeth Mwy o Lyfrau.

Prisiau

Math o Eitem  Pris newydd o Awst 2023
Llyfr £18.85
Llungopi (i'w gadw) £13.20
Dosbarthu Electronig Diogel £6.70 / £11.70 **
Patent  Yn unol â ffioedd y Llyfrgell Brydeinig
Traethawd ymchwil £18.85
Ceisiadau Rhyngwladol

Llyfrau £24.60

Llungopiau £14.00


**
£11.70 os yn sganio-o-brint a £6.70 os cyflenwir o ffynhonnell electronig

 

Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau – Dychwelyd, Adnewyddu ac Ymholiadau

Neu, os ydych am adnewyddu llyfr cysylltwch â staff Cyflenwi Dogfennau, Llyfrgell Hugh Owen gan ddyfynnu rhif y cais, yr awdur a theitl y llyfr, o leiaf 3 diwrnod cyn y dyddiad dychwelyd. Byddwn wedyn yn cyflwyno cais am ganiatâd i adnewyddu’r eitem ac yna eich hysbysu o’r canlyniad.

A fyddech cystal â nodi: ar gyfer adnewyddu eitem, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y dyddiad disgwyliedig ar ôl i’r llyfrgell sy’n gwneud y benthyciad ymateb i’n cais.

 

 Gwybodaeth pellach ar geisiadau Cyflenwi Dogfennau

Gwirio beth sy'n digwydd â'ch cais

Amseriad derbyn cais

Canslo cais

Derbyn cais

Hyd benthyciad

Eitemau at ddefnydd cyfeiriol yn unig

Erthyglau Electronig

Eitemau hwyr

Eitemau wedi difrodi/ar goll

 

Traethodau a chyflenwi llyfrgelloedd y Deyrnas Unedig a thramor

Traethodau y Deyrnas Unedig a Gogledd America

Cyflenwi i lyfrgelloedd eraill y Deyrnas Unedig

Cyflenwi i lyfrgelloedd tramor