Loceri

Loceri dyddiol - Llyfrgell Hugh Owen

Mae loceri wedi'u lleoli ar bob llawr yn Llyfrgell Hugh Owen maent ar gael i bob myfyriwr i'w defnyddio am ddiwrnod ar y tro ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.

Mae'r loceri hyn:

  • yn rhad ac am ddim i'w defnyddio
  • yn cael eu benthyca ar eich Cerdyn Aber
  • ar gael tan 9 o'r gloch y bore canlynol

Os hoffech ddefnyddio un o'r loceri hyn, gofynnwch wrth y Ddesg Ymholiadau ar Lefel D

Nodir

  • os collwch yr allwedd codir tal llawn o £12 sef pris amnewid

Loceri Benthyciad Hir - Llyfrgell Hugh Owen

Mae'r loceri wedi eu lleoli ar pob llawr yn Llyfrgell Hugh Owen sydd ar gael ar gyfer bob myfyriwr maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.

Mae'r loceri hyn:

  • yn rhad ac am ddim i'w defnyddio
  • yn cael eu benthyca ar eich Cerdyn Aber
  • ar gael i fenthyg am cyfnod o 12 wythnos

Os hofech ddefnyddio un o'r loceri hyn gofynnwch wrth y Ddesg Ymholiadau ar Llawr D yn Llyfrgell Hugh Owen

 Nodir

  • os collwch yr allwedd codir tal llawn o £12 sef pris amnewid

Rheoliadau Loceri:

  • Ni ddylid cadw eitemau darfodus yn y locer. 
  • Dim ond deunydd personol a deunydd llyfrgell sydd wedi ei fenthyca y gellir eu cadw yn y locer. 
  •  Ni ddylid cadw unrhyw ddeunyddiau peryglus yn y locer. 
  • Rhaid i unrhyw lyfrau neu ddeunyddiau llyfrgell PA a gedwir yn y locer fod wedi eu benthyca gan yr unigolyn sy’n defnyddio’r locer. 
  • Os canfyddir unrhyw eitemau Llyfrgell sydd yn orddyledus yn eich locer mi fyddent yn cael ddychwelyd yn syth. 
  • Os canfyddir unrhyw lyfrau neu ddeunydd Llyfrgell sydd heb ei fenthyca yn y locer caiff ei ddychwelyd yn syth i’r silffoedd. 
  • Mi fydd eitemau darfodus a chanfyddir yn y locer yn cael ei waredi. 
  • Mae hawl gan aelodau staff y Gwasanaethau Gwybodaeth gael mynediad i loceri heb rybuddio’r defnyddiwr at ddibenion diogelwch, cynnal a chadw, atgyweirio ac i chwilio am ddeunyddiau llyfrgell sydd heb ei fenthyca ac unrhyw ddibenion eraill fel bo’r angen. 
  • Nid yw Gwasanaethau Gwybodaeth yn atebol am eitemau coll neu eitemau sydd wedi eu dwyn. 
  • Os camddefnyddir loceri gellir diddymu’r hawl i’w defnyddio.

Lefel E

 

 

 

Lefel F

 

Lefel D