Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn Unig)

1. Yn gyntaf edrychwch ar Primo, catalog y llyfrgell yn primo.aber.ac.uk

Methu dod o hyd i'r llyfr yr ydych ei eisiau?

2. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr ‘rydych yn chwilio amdano, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein.  Serch hynny, fe ddylech fod yn ymwybodol, y gall llyfr gymryd rhwng deg diwrnod a chwe wythnos o ddyddiad yr archeb hyd nes iddo ymddangos ar silffoedd y llyfrgell, yn dibynnu ar argaeledd gan ein cyflenwr.

3. Os yw'r llyfr y gwnaethoch gais amdano yn costio llai na £ 50.00 ac nad oes unrhyw gopïau eraill mewn stoc, bydd eich archeb yn cael ei gosod yn nwylo ein cyflenwyr o fewn tri diwrnod gwaith.

  • Bydd  ceisiadau ar gyfer llyfr sy'n costio mwy na £ 50.00, neu lle mae copïau eraill mewn stoc, yn cael eu trosglwyddo i Lyfrgellwyr  y Gwasanaethau Academaidd er mwyn iddynt gymeradwyo prynu’r eitem.
  • Unwaith y cymeradwyir eich archeb bydd yn cael ei gosod gyda’n cyflenwyr o fewn pum niwrnod gwaith o'i dderbyn.
  • Byddwn yn eich hysbysu os na allwn  gymeradwyo eich archeb ynghyd â’r rheswm dros wrthod y cais.
  • Er mwyn sicrhau fod y cynllun Mwy o Lyfrau yn deg, mi fydd yna gyfyngiad o wyth llyfr y myfyriwr.