Defnyddio Llyfrgelloedd Eraill

Defnyddio llyfrgelloedd Sefydliadau Addysg Uwch eraill

Mae 'SCONUL Access' yn wasanaeth sy'n cynnwys y rhan fwyaf o lyfrgelloedd addysg uwch gwledydd Prydain ac Iwerddon yn cydweithio â'i gilydd. Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o'r cynllun hwn, sy'n golygu bod rhai mathau o ddefnyddwyr yn cael defnyddio llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysg uwch eraill. Dyma'r categorïau perthnasol o ddefnyddwyr:

  • staff a myfyrwyr ymchwil
  • myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell, a myfyrwyr ar leoliadau
  • uwchraddedigion a ddysgir drwy gwrs

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun ar wefan Sconul.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae ymgeiswyr 16 oed neu'n hŷn yn cael gwneud cais am docyn darllenwr i gael defnyddio casgliad y Llyfrgell. Sylwer mai dim ond gweld y deunydd yn yr ystafelloedd darllen y cewch chi - ni chewch fynd â deunydd allan o'r Llyfrgell Genedlaethol. Chwilio'r catalog.

Cewch wneud cais am docyn ar y we o'r ddolen hon http://psr.llgc.org.uk/psr/psr/register/cy/personal. Gwnewch gofnod o rif eich tocyn a mynd ag ef gyda chi pan ddewch i'r Llyfrgell, lle y caiff y tocyn ei brosesu'n llawn. Cewch hefyd gofrestru ar-lein yn y Dderbynfa pan gyrhaeddwch y Llyfrgell. Mae cofrestru ar-lein hefyd yn golygu y gallwch gofrestru i ddefnyddio'r adnoddau electronig sydd ar gael drwy Athens. Ticiwch y blwch ar y ffurflen hunan gofrestru sy'n dweud eich bod am gael cyfrif personol Athens. Rhaid cynnwys cyfeiriad ebost ar eich ffurflen gais i gofrestru am y gwasanaeth hwn, gan mai drwy'r ebsot y cewch y manylion cofrestru ag Athens yn uniongyrchol oddi wrth Weinyddwr Athens.

Rhaid dod â dwy ddogfen yn rhoi prawf o bwy ydych chi, un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad presennol. Ni cheir rhoi tocyn heb gael prawf digonol o bwy ydych chi.

Defnyddio Llyfrgelloedd Cyhoeddus 

I gael gwybod ble mae'ch Llyfrgell Gyhoeddus agosaf ac am yr ystod lawn o adnoddau sydd ar gael, gweler https://llyfrgelloedd.cymru/. Gall myfyrwyr a staff hefyd ddefnyddio eu Llyfrgell Gyhoeddus leol i archebu benthyciadau rhwng llyfrgelloedd.

Defnyddio Llyfrgelloedd Cyhoeddus

I gael gwybod ble mae'ch Llyfrgell Gyhoeddus agosaf ac am yr ystod lawn o adnoddau sydd ar gael, gweler https://llyfrgelloedd.cymru/. Gall myfyrwyr a staff hefyd ddefnyddio eu Llyfrgell Gyhoeddus leol i archebu benthyciadau rhwng llyfrgelloedd.