Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

 

Lleolir Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar y 4ydd llawr o adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar gampws Penglais [lleoliad].

Mae’r Llyfrgell hon yn gartref i ddeunyddiau ar gyfer astudio mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg.

  • Defnyddiwch y peiriant hunan ddychwelyd i ddychwelyd llyfrau.
  • Mae'r ddesg ymholiadau wedi'i staffio rhwng 08:30 - 10:00 ddydd Llun, dydd Mawrth  a Dydd Iau yn ystod y tymor.
  • Gellir cael  cymorth a chefnogaeth y tu allan i'r oriau hyn drwy:
    • defnyddio Sgwrsiwch Nawr ar y dudalen yma
    • e-bostio gg@aber.ac.uk
  • Parchwch anghenion defnyddwyr eraill y Llyfrgell, a chadwch sŵn ac aflonyddwch i'r lleiafswm.

Nodyn atgoffa: Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r llyfrgell a'r mannau astudio

 

Oriau agor

Casgliadau

Mae'r llyfrgell yn gartref i ddeunyddiau ar gyfer cyfrifiadureg, mathemateg a ffiseg gan gynnwys y casgliad arbennig yma:

Dyma ragor o wybodaeth am fenthyca o'r llyfrgelloedd 

Taith rithiol

Eich Diogelwch

I amddiffyn eich hun ac eraill gofynnwn i chi:

  • Defnyddio hylif glanweithiol cyn dod i mewn, ac yn rheolaidd wrth ddefnyddio'r Llyfrgell.
  • Defnyddio'ch Cerdyn Aber eich hun i gael mynediad i mewn ac allan o'r llyfrgell.
  • Peidio â dod i’r Llyfrgell os ydych chi'n sâl.

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod staff sydd yn gweithio yn y Llyfrgell yn dilyn arferion hylendid a argymhellir.
  • Bod glanhau rheolaidd yn cael eu gwneud.
  • Bod gorsaf diheintio dwylo ar gael wrth y fynedfa
  • Bod cadachau diheintio ar gael i chi sychu arwynebau yn ôl yr angen

Hygyrchedd

  • Mae ramp ar gael o'r brif fynedfa ar yr ochr dde o'r adeilad.
  • Mae'r cyfleusterau toiled hygyrch ar gael ar lawr gwaelod yr adeilad hwn.
  • Mae'r llyfrgell Gwyddorau Ffisegol ar y 4ydd llawr, ble gellir cael mynediad o'r lifft. Mae lifft ar gael o gyntedd y llyfrgell  i gael mynediad i brif gorff y llyfrgell.
  • Mae dolen sefydlu clyw ar gael wrth y ddesg ymholiadau.
  • Mae chwyddwydrauthrosluniau lliw ar gael i'w benthyg o'r ddesg  ymholiadau.
  • Gallwn drefnu i nôl deunyddiau darllen neu ddeunyddiau arall o fewn y llyfrgell yn barod i'w casglu neu astudio personol.
  • Cysylltwch â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Swyddfa Diogelwch Iechyd a'r Amgylchedd,  i drefnu cynllun gwacau brys personol (PEEP) ar gyfer y llyfrgell berthnasol.

Os hoffech gael taith dywys o amgylch y cyfleusterau i drafod unrhyw ofynion penodol sydd gennych, cysylltwch â ni.