Astudio yn y Llyfrgell

Gwasanaeth Rhybuddio am Sŵn

Oes rhywun yn tarfu ar eich astudiaethau yn Llyfrgell Hugh Owen? 

Rhowch wybod i ni drwy siarad ag aelod o staff wrth y Ddesg Ymholiadau, neu drwy anfon neges destun i’r Gwasanaeth Rhybuddio am Sŵn ar 07966624251

  • Rhowch eich lleoliad i ni (e.e. “Lefel F ger y llyfrau Celtaidd” neu “Yn Ystafell Gyfrifiaduron Tom Lloyd”) a disgrifiad byr o’r broblem.
  • Unwaith y daw’r rhybudd, bydd aelod o staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn patrolio’r ardal cyn gynted â phosibl.

Noder:

  • Mae’r gwasanaeth ar gael yn ystod y tymor rhwng 10:00-22:00
  • Ni fyddwn yn anfon neges destun yn ôl oni bai ein bod eisiau cadarnhau eich lleoliad
  • Ni fyddwn yn cadw manylion cyswllt / rhifau ffôn y rhai sy’n anfon negeseuon testun
  • Codir tâl ar gyfradd eich darparwr ar gyfer anfon y neges destun

Parthau astudio tawel a distaw

Ardal Astudio Distaw

Mae Lefel F (llawr uchaf) gan gynnwys ystafelloedd astudio unigol a'r ystafelloedd gwydr yn Llyfrgell Hugh Owen yn ardaloedd astudio distaw.

  • Rhaid diffodd y sŵn ar eich ffonau
  • Gweithiwch yn dawel drwy’r amser gan gynnwys wrth ddefnyddio’r gliniaduron a’r cyfrifiaduron
  • Sicrhewch nad oes modd i’r rhai cyfagos glywed y sŵn ar unrhyw offer gwrando personol

Ardaloedd Astudio Tawel

Maer rhan fwyaf o ardaloedd yn Llyfrgell Hugh Owen yn ardaloedd astudio tawel. Yr ardaloedd hyn yw: EL6 (yr ystafell gyfrifiaduron ar Lefel E), Lefel E, Ystafell Iris de Freitas, Lefel D (llawr gwaelod), a'r ystafelloedd astudio grŵp ar Lefelau D ac E.

Helpwch i sicrhau bod y Llyfrgell yn lle pleserus i weithio ynddo

Os gwelwch yn dda: 

  • Tacluswch ar ôl eich hun – defnyddiwch y biniau ailgylchu a pheidiwch â gadael sbwriel ar eich hôlau.

  • Byddwch yn ofalus gyda’ch ceblau a pheidiwch â’u gadael yn llusgo ar y llawr rhag ofn i eraill faglu drostynt.

  • Peidiwch â ‘chadw’ byrddau, ystafelloedd astudio neu gyfrifiaduron drwy adael eich eiddo yno – mae gofod yn brin!
  • Os hoffech siarad neu ddefnyddio eich ffôn, ewch allan o’r Llyfrgell. Gall gwneud sŵn ar y grisiau (gan gynnwys galwadau ffôn) darfu ar allu pobl i ganolbwyntio.
  • Gadewch i’ch cyd-fyfyrwyr astudio mewn llonydd!

Ein nod yw gweithio gyda’n myfyrwyr i ddarparu amgylchedd cyfforddus a thawel i astudio ynddo. Os nad ydych yn fodlon cydymffurfio â’r canllawiau, fe ofynnir i chi adael y Llyfrgell.

Cerdyn Aber

  • Mae angen eich Cerdyn Aber arnoch chi i fynd i mewn i'r Llyfrgell cyn 08:30am ac i adael ar ôl 17:00pm.
  • Bydd angen eich cerdyn arnoch hefyd i fenthyg eitemau.
  • Dewch â'ch Cerdyn Aber gyda chi i'r Llyfrgell bob tro, os gwelwch yn dda.

Rhowch wybod i Gwasanaethau Gwybodaeth ar unwaith os ydych yn colli eich cerdyn.

Defnyddio'r mannau astudio

Byddwch yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr eraill a gwnewch yn sicr fod y man lle’r ydych yn gweithio yn glir a thaclus wrth ddefnyddio’r Llyfrgell. Cofiwch beidio â gadael eiddo personol yn y Llyfrgell wrth adael yr adeilad gan nad ydyn ni’n derbyn cyfrifoldeb am eitemau sy’n cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.

Yn ystod tymor yr arholiadau, mae gofod i astudio yn werthfawr. Defnyddiwch locer i gadw eich eiddo’n ddiogel ac i storio'r llyfrau sydd ar fenthyg gennych os ydych yn symud o’ch man astudio am gyfnod. Rydym yn ddiolchgar am eich cydweithrediad yn rhannu gofod astudio.

Bwyd a diod yn y Llyfrgell

Ein nod yw gweithio gyda chi i ddarparu amgylchedd gwaith cyfforddus, glân a thawel ar gyfer astudio.

Yn fras, dyma ein rheolau ar fwyd a diod:

  • Cewch fwyd oer a diodydd oer yn y llyfrgell (mewn cynwysyddion â chaeadau) (mae rhai eithriadau - gweler y polisi llawn).
  • Peidiwch â dod â bwyd oer drewllyd, seimllyd ac anniben, bwyd tecawê poeth sydd wedi oeri na bwyd oer mewn pecynnau swnllyd.
  • Ni chaniateir bwyd a phrydau poeth yn unrhyw ran o unrhyw un o’r llyfrgelloedd.
  • Ni chaniateir yfed alcohol yn unrhyw un o’r llyfrgelloedd.
  • Bydd staff Gwasanaethau Gwybodaeth yn gofyn ichi symud i ran arall o’r llyfrgell neu i adael y llyfrgell os ydynt yn teimlo nad ydych yn defnyddio’r ardal yn briodol a’ch bod yn tarfu ar fyfyrwyr eraill.

Darllenwch ein polisi llawn ar fwyd a diod yn y llyfrgell

Eich lles

Trwy agor y Llyfrgell am 24-awr yn ystod y tymor gallwn gynorthwyo eich astudiaethau, pa oriau bynnag y byddwch yn astudio. Serch hynny, nid yw’r ffaith fod yr Llyfrgell ar agor i chi dros nos yn golygu y dylech fod yn astudio bob awr o’r dydd. Cofiwch gymryd egwyl yn rheolaidd a chael digon o gwsg.

Os ydych yn gadael y Llyfrgell yn hwyr y nos, cofiwch fod yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun wrth deithio adref.

Glanhau

Mae staff glanhau’r Llyfrgell yn gweithio’n galed i gadw’r Llyfrgell yn lle glan a thaclus ichi weithio ynddo. Mae rhan fwyaf y gwaith glanhau yn cael ei wneud yn gynnar yn y bore bob dydd, ar adeg y mae’r Llyfrgell ar gau fel arfer.

Yn y cyfnodau agor 24-awr, bydd y Llyfrgell ar agor ar yr adegau hyn ac efallai y bydd y glanhau yn tarfu ychydig ar ddefnyddwyr; byddwch yn amyneddgar oherwydd mae’r gwaith hwn yn angenrheidiol i wneud y Llyfrgell yn lle braf ar gyfer holl aelodau’r Brifysgol a chofiwch fod yn ofalus o wifrau’r peiriannau glanhau.