Llyfrgell Thomas Parry

Mae Llyfrgell Thomas Pary ar Gampws Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Yn bennaf mae'n gwasanaethu anghenion dysgu ac addysgu'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Mae prif ddyletswydd y llyfrgell i'r Brifysol, ond mae hefyd yn ceisio gwasanaethau pawb sydd â diddordeb academiadd mewn unrhyw un o'r meysydd hyn, yng Nghymru a thu hwnt, ac mae'n croesawu ymholiadau a chwiliadau o unrhyw le yn y byd. Darperir amrywiaeth o adnoddau i'ch helpu â'ch astudiaethau ac i'ch helpu i ymlacio mewn tawelwch.

Oriau agor estynedig ar benwythnosau yn Llyfrgell Thomas Parry yn ystod cyfnod arholiadau Semester 2

Yn ystod y penwythnosau 11/12 Mai, 18/19 Mai a 25/26 Mai 2013 bydd Llyfrgell Thomas Parry ar agor o 12pm-4pm ar y Dydd Sadwrn a’r Dydd Sul.

Gellir gweld oriau agor yr holl lyfrgelloedd drwy fynd yma: http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/

Gwyliau’r Banc

Dydd Llun 6 a 27 Mai Llyfrgell thomas Parry ar agor 09.00-13.00, 14.00-1730.

Oriau agor Llyfrgell Thomas Parry

Yn ystod y tymorGwyliau
Llun i Iau 09:00 - 18:00
Gwener 09:00 - 17:30

Llun, Mawrth, Mercher, Iau
09:00 - 13:00, 14:00 - 17:30
Gwener 09:00 - 13:00, 14:00 - 17:00

Oriau agor estynedig ar benwythnosau yn llyfrgell Thomas Parry yn ystod cyfnod arholiadau Semester 2

Yn ystod y penwythnosau 12/13 Ionawr a 19/20 Ionawr 2013 bydd Llyfrgell Thomas Parry ar agor o 12pm-4pm ar y Dydd Sadwrn a’r Dydd Sul.

Casgliadau

Mae gan y llyfrgell gasgliad unigryw o ddeunyddiau o statws rhyngwladol ar lyfrgellyddiaeth a gwyddor gwybodaeth, Llyfrgell arbennig i Blant, deunyddiau sy'n ymwneud â rheoli adnoddau gwleidg, gan gynnwys adnoddau amaethyddol a gwyddor ceffylau a rhwyfaint o ddeunydd ar gyfer astudiaethau cyfryngau, cyfrifiaduron a rheoli.


Mae'r casgliadau arbennig yn cynnwys:

  • Casgliad Appleton
  • Casgliad Horton
  • Casgliad Oliver Simon

Ceir gwybodaeth am fenthyca o gasgliadau'r llyfrgell ar y dudalen hon

Cynllun llawr

Adnoddau

  • Trosluniau Lliw
  • Peiriant newid mân
  • Cyfrifiaduron
  • Adnoddau gwylio DVD/Fideo
  • Ardal Astudio i grwpiau
  • Cymorth a chefnogaeth
  • Ystafell astudio i grwpiau
  • Cloeriau
  • Eiddo coll
  • Chwyddwydrau
  • Papurau newydd - cenedlaethol a rhanbarthol
  • Catalogau Ar-lein
  • Dolen Sain Gludadwy
  • Argraffu a Llungopïo
  • Llwythwr credyd argraffu
  • Gwerthu nwyddau traul
  • Sganio
  • Peiriant hunan fenthyca
  • Rhwymo crib hunanwasanaeth
  • Ardaloedd astudio tawel
  • Peiriant bwyd
  • Wi-Fi

Adnoddau hygyrchedd yn Llyfrgell Thomas Parry

  • Mae lleoedd parcio i bobl anabl ger y brif fynedfa i Thomas Parry sy'n hygyrch i bobl mewn cadair olwyn trwy ardaloedd gwastad amrywiol neu rampiau.
  • Mae toiled anabl yn y brif lyfrgell.
  • Mae dolen sain ar gael yn y Ddesg Ymholiadau.
  • Mae lleoedd parcio i bobl anabl ar gael ger prif fynedfa Thomas Parry sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn trwy amrywiol ardaloedd gwastad neu rampiau.
  • Mae toiledau i’r anabl ar gael yn y brif lyfrgell.
  • Mae dolen sain ar gael wrth y Ddesg Ymholiadau.
  • Trosluniau Lliw a Chwyddwydrau ar gael i’w benthyca o’r ddesg ymholiadau.
  • Gallwn drefnu i nôl a dosbarthu deunyddiau darllen neu ddeunyddiau eraill yn y Llyfrgell, yn barod i’w casglu neu ar gyfer astudiaeth bersonol.
  • Mae ardal Cerdyn Gwyrdd arbennig i ddefnyddwyr Cerdyn Gwyrdd cofrestredig

Cysylltwch â ni os hoffech gael taith dywysedig o amgylch yr adnoddau, trafod Cynllun Personol Gadael Adeilad ar Frys neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol.