Newyddion a Digwyddiadau
Digwyddiadau
Newyddion
Oriau agor estynedig ar benwythnosau yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry yn ystod cyfnod arholiadau Semester 2
27/04/2012
Yn ystod y penwythnosau 19/20 Mai a 26/27 Mai 2012:- bydd Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu ei horiau agor 2 awr, a bydd ar agor o 10am-8pm ar y Dydd Sadwrn a’r Dydd Sul.
- bydd Llyfrgell Thomas Parry ar agor o 12pm-4pm ar y Dydd Sadwrn a’r Dydd Sul.
Gellir gweld oriau agor yr holl lyfrgelloedd drwy fynd yma: http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/
Gwaith cynnal a chadw hanfodol ar gysylltiad rhyngrwyd PA – Mai 30ain a 31ain
18/05/2012
Rhwng 10.00pm nos Fercher, Mai 30ain a 1:00am, dydd Iau, Mai 31ain efallai bydd yna darfu dros dro ar fynediad i wefannau allanol er mwyn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ein cysylltiad rhyngrwyd.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau croeso ichi gysylltu â ni ar 01970 62 2400/ is@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth: Oriau agor a benthyciadau yn ystod gwyliau'r Haf
18/05/2012
Mae'rGwasanaethau Gwybodaeth yn dymuno egwyl braf i bawb
OriauAgor
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn gweithredu oriau gwyliau rhwng dydd Mercher, 6 Mehefin a dydd Sul, 24 Medi 2012
• Llyfrgell Hugh Owen: Dydd Llun i Ddydd Gwener 0830-1730
• Llyfrgell Thomas Parry: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener 0900-1730; Dydd Mercher 0900-1700
• Llyfgell y Gwyddorau Ffisegol: Dydd Llun-Dydd Iau 0900-1300; 1400-1730, Dydd Gwener 0900-1300; 1400-1600
Gallwchweld manylion am oriau agor ystafelloedd cyfrifiadurol dros Wyliau’r Haf yma:http://www.aber.ac.uk/cy/is/computers/rooms/ PA yn unig)
ByddGG a phob llyfrgell ar gau ar ddydd Llun, Mehefin 4ydd, dydd Mawrth, Mehefin 5ed a dydd Llun, Awst 27 2012.
Byddllyfrgell Hugh Owen ar agor rhwng 10am a 6pm bob penwythnos trwy gydol mis Medi.
Gellirgweld oriau agor y llyfrgell ar:http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/
Benthyciadau'rGwyliau:
Benthyciad Safonol: O ddydd Llun,28 Mai 2012 hyd at ddydd Llun,24 Medi 2012.
Benthyciad Tridiau: O ddydd Llun, 28 Mai 2012 hyd at ddydd Llun, 24 Medi 2012
BenthyciadauCyfnod Byr: bydd y cyfnod benthyca arferol o 10 awr mewngrymion
Arddangosfeydd newydd o lyfrau prin yn Llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry
17/05/2012
Dewch draw i weld yr arddangosfeydd newydd o lyfrau prin yn Llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry. Ar Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen ceir arddangosfa o fapiau gan Nicolas de Fer, un o gartograffwyr pennaf yr 17eg ganrif ar Lefel D ynghyd ag arddangosfa o adroddiadau cyfoes yn nodi llofruddiaeth y Prif Weinidog, Spencer Perceval yn 1812. Arddangosir eitemau i nodi penblwydd genedigaeth Joanna Baillie y bardd a’r dramodydd o’r Alban, a’r bardd Robert Browning yn Llyfrgell Thomas Parry.
Yn graddio’r haf hwn?
04/05/2012
Llongyfarchiadau ar gwblhau eich astudiaethau! Dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.Cofiwch os gwelwch yn dda fod yn rhaid ichi dalu eich holl ddyledion i’r Brifysgol a dychwelyd yr holl eitemau a fenthyciwyd i’r llyfrgell berthnasol erbyn diwedd tymor yr haf cyn y gallwch gael eich gradd.
Gellir gweld beth sydd gennych ar fenthyg, neu unrhyw ddirwyon sydd angen eu talu trwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif ar Primo, catalog y llyfrgell (http://primo.aber.ac.uk) neu trwy gysylltu â staff y Llyfrgell (http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/) . Gellir talu dirwyon arlein https://voyager.aber.ac.uk/fines/ . Am ad-daliad o gredyd argraffu/llungopïo gweler http://www.aber.ac.uk/cy/is/printing/refunds/
Bydd eich cyfrif cyfrifiadurol yn cloi ddiwedd mis Awst ac ni fyddwch mwyach yn medru cael mynediad i’ch ebost, Blackboard, VPN na rhwydwaith y Brifysgol. Gweler y cwestiwn cyffredin isod am wybodaeth beth ddylech ei wneud cyn i’ch cyfrif gloi. http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/cymraeg/faq/126
Dysgu trwy gyfrwng technoleg – beth sydd angen ichi ei wybod?
30/04/2012
Mae cymorth e-ddysgu'r Gwasanaethau Gwybodaeth wrthi’n cynllunio ein rhaglen hyfforddi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Pa sesiynau hyfforddi e-ddysgu yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnig?Rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r arolwg byr isod:
Mae’r arolwg yn cau ar Fai 23ain
Ar agor tan hanner nos dydd Llun – dydd Iau yn Llyfrgell Hugh Owen
16/04/2012
Bydd Llyfrgell Hugh Owen yn parhau i ymestyn ei horiau agor tan ganol nos ddydd Llun-dydd Iau. Bydd yr oriau agor hyn yn parhau tan ddiwedd y tymor i ddarparu mynediad ychwanegol i fannau astudio ac adnoddau GG ar gyfer myfyrwyr a staff.
Cynhaeaf Syniadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth 2011: Ymateb GG
13/04/2012
Roeddem wrth ein bodd â’r ymateb i’n cynhaeaf syniadau ar-lein a fu’n rhedeg am wythnos ym mis Tachwedd 2011. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gynnig sylwadau ar y gwasanaethau argraffu/copïo/sganio a gynigir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Roeddem ni’n falch o glywed am y profiadau cadarnhaol niferus a gawsoch, diolch hefyd am eich awgrymiadau ynglŷn â gwella ein gwasanaethau. Mae adroddiad llawn am y sylwadau a gafwyd a’r camau a gymerwyd ar gael ar wefan y GG ar: http://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/response/sh2011/