Argraffu, Copïo a Sganio

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu gwasanaeth argraffu 'dilyn fi' sy’n golygu:

  • Pan fyddwch yn anfon eich gwaith i’w argraffu aiff i giw canolog
  • Gallwch yna ddefnyddio unrhyw beiriant argraffu-copïo a mewngofnodi i ryddhau eich dogfen. Golyga hyn y gallwch fynd at argraffydd arall os yw’r peiriant argraffu/copïo agosaf atoch yn cael ei ddefnyddio.
  • mae’r holl gyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd, yr ystafelloedd cyfrifiaduron a swyddfeydd y staff wedi’u cysylltu’n awtomatig â’r ciw argraffu canolog
  • gallwch gysylltu eich dyfais eich hun â’r ciw argraffu canolog

Mae’r holl beiriannau argraffu/copïo yn cynnig

  • Du a gwyn a Lliw
  • A4 ac A3
  • dwy ochr i’r dudalen (diofyn) ac un ochr i’r dudalen
  • argraffu’n uniongyrchol o’ch cyfrifiadur eich hun
  • argraffu’n uniongyrchol o’ch dyfais symudol
  • argraffu o e-bost
  • argraffu drwy’r we o ba le bynnag yr ydych
  • sganio i e-bost
  • sganio i storfa ffeiliau

Talu am argraffu a llungopïo

  • Bydd myfyrwyr yn talu o falans eu Cerdyn Aber
  • Codir tâl am ddefnydd y staff at ddibenion gwaith fel ôl-ddyled i’w hadran
  • Bydd staff sy’n argraffu/llungopïo at ddibenion personol yn talu o falans eu Cerdyn Aber
  • Mae sganio yn rhad ac am ddim

Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth argraffu yn ein Cwestiynau Cyffredin

Llwytho arian ar eich Cerdyn Aber

Costau argraffu, llungopïo a sganio - hunanwasanaeth

  Argraffu a llungopïo mewn du a gwyn O 01 Ionawr 2024 Argraffu a llungopïo mewn lliw O 01 Ionawr 2024 Sganio
A4 2c 3c 4c 5c Am ddim
A3 3c 4c 5c 6c Am ddim