Gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes

Mae gan y Gwasanaethau i Fyfyrwyr ddarpariaeth helaeth o wasanaethau i gynorthwyo pob dysgwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Lle bo angen, mae ein staff wedi cymhwyso’n broffesiynol a/neu maent wedi'u cofrestru neu eu hachredu gan eu cyrff neu gymdeithasau proffesiynol.

Y Gwasanaeth Hygyrchedd

Nod y Gwasanaethau i Fyfyrwyr yw rhoi profiad o'r ansawdd uchaf i'n holl fyfyrwyr a sicrhau bod pob myfyriwr sy'n cyflawni ein gofynion mynediad yn gallu manteisio ar ein cyfleusterau academaidd.

Yn achos myfyrwyr anabl, myfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd corfforol/meddyliol hirsefydlog neu wahaniaeth dysgu penodol, mae’r Gwasanaethau’n anelu i sicrhau cwricwlwm cynhwysol sy'n hygyrch i bawb.

Gall y Gwasanaeth roi cyngor i chi ynglŷn ag addasiadau, asesiadau amgen, a thechnoleg alluogi fel y gallwch gyflawni eich potensial llawn a chael y canlyniadau da rydych chi'n eu haeddu.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ddarpariaeth y Gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu os oes gennych gwestiynau penodol, e-bostiwch anabledd@aber.ac.uk neu ffonio (01970) 621761 neu 622087.

Cyngor ac Arian

Mae Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian y Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ogystal â chyfeirio myfyrwyr ymlaen i'r man cywir i gael cymorth ar bob math o faterion. Gallant, er enghraifft:

  • Wrando ar unrhyw bryder neu broblem a'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn y Brifysgol neu yn rhywle arall
  • Cynorthwyo i lenwi ffurflenni cais am sawl math o gyllid myfyrwyr
  • Rhoi gwybodaeth i chi am reolau a rheoliadau'r Brifysgol, yn cynnwys rheoliadau academaidd neu reoliadau ynglŷn ag aflonyddu.
  • Rhoi cyngor ynglŷn â thynnu'n ôl o gwrs neu newid cwrs
  • Rhoi cyngor os bydd amgylchiadau annisgwyl yn effeithio ar eich astudiaethau.

Os nad ydych yn sicr ble i fynd i gael cyngor neu gymorth, e-bostiwch cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk neu ffonio (01970) 621761 neu 622087.  Does 'na ddim byd sy'n rhy fach nac yn rhy fawr. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn anfeirniadol, ac yn rhad ac am ddim. 

Lles

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn deall pwysigrwydd cynnal iechyd a lles er mwyn i fyfyrwyr ffynnu yn ystod eu cyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar ôl hynny. Rydym yma i gynorthwyo unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater lles, boed yn fater sy'n ymwneud â chyfeillgarwch, profedigaeth, gorbryder, neu faich gwaith, a phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu ddifrifol a pharhaus. I drafod ymhellach e-bostiwchlles@aber.ac.uk neu ffonio: 01970 621761 / 622087.

Gyrfaoedd

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu gwasanaeth rhagorol a chefnogol sy'n rhoi myfyrwyr a graddedigion mewn sefyllfa i wireddu eu gobeithion, gwneud dewisiadau bywyd yn wybodus, a chyflawni eu potensial.

Mae gan staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd brofiad a chymwysterau proffesiynol ac fe allant eich cynorthwyo:

  • i ddod o hyd i ddewisiadau defnyddiol i gael profiad gwaith
  • sylweddoli pa sgiliau yn deillio o’ch cwrs sy'n bwysig i gyflogwyr
  • cynllunio eich llwybrau gyrfa posibl yn y dyfodol.
  • eich cefnogi wrth i chi wneud ceisiadau i gyflogwyr
  • asesu a fydd astudiaethau uwchraddedig yn addas i chi ac yn gymorth i ddatblygu eich gyrfa
  • deall sut i sefydlu eich busnes eich hun a dechrau cynllunio
  • cysylltu â chyflogwyr, cyn-fyfyrwyr a chyrff proffesiynol i ddatblygu eich cynlluniau gyrfa

Mwy o Wybodaeth:  Gyrfaoedd

Cysylltwch â Gyrfaoedd: gyrfaoedd@aber.ac.uk

Y Llyfrgell

Mae adnoddau helaeth gan Lyfrgell y Brifysgol ar gyfer dysgu ar-lein, ac mae'n darparu nifer o wasanaethau i fyfyrwyr. Gweler Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes: Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Llyfrgelloedd

Gall Llyfrgellwyr Pwnc roi hyfforddiant i fyfyrwyr a staff ynglŷn â sgiliau gwybodaeth yn ogystal â chymorth pwnc trwyadl, ac maent yn cysylltu ag adrannau academaidd ynglŷn â’r hyn sydd ei angen arnynt yng nghyswllt y llyfrgell a gwybodaeth.

Gallwch anfon e-bost, ffonio neu drefnu apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc i gael cymorth a chyngor ar ddefnyddio'r llyfrgelloedd, dod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer aseiniadau, a mwy!

Cysylltwch â ni trwy e-bostio: llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu ffonio: 01970 622073.

SgiliauAber

Mae Sgiliau Aber yn ganolbwynt i wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer atgyfnerthu sgiliau academaidd, sgiliau astudio, a sgiliau proffesiynol - y cwbl wedi’i grynhoi’n drefnus a chyfleus yn un lle.

Gall eich helpu i

  • Wella eich arddull ysgrifennu mewn aseiniadau
  • Gloywi eich sgiliau mathemateg
  • Datblygu'r sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol fydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau ac wedyn
  • Deall sut i gyfeirnodi a rhoi ymwybyddiaeth ynglŷn â llên-ladrad
  • Defnyddio’r Llyfrgell, a manteisio ar gyngor gyrfaoedd a lles
  • Eich gwneud yn fwy cyflogadwy ... a llawer mwy!

Mwy o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/