CAA yn symud
26 July 2010
Ddydd Gwener, y 9fed o Orffennaf, cynhaliwyd prynhawn agored gan CAA (Canolfan Astudiaethau Addysg), asiantaeth gyhoeddi o fewn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth – yn eu canolfan newydd yng Ngogerddan. Symudodd CAA, un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf Cymru, i gampws Gogerddan yn ôl ym mis Ebrill, a chafodd y gwesteion ddydd Gwener gyfle i fynd ar daith o amgylch y swyddfeydd newydd a mwynhau lluniaeth ysgafn.
Mae CAA wedi cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac yn Saesneg ers 28 mlynedd bellach – yn llyfrau, CDau, CD-ROMau rhyngweithiol, pecynnau aml-gyfrwng a gweithgareddau ar-lein – ac fe gyhoeddwyd oddeutu 2,000 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982. Am fwy o wybodaeth am gyhoeddiadau a gwaith CAA, ewch i chwilota ar eu gwefan: www.caa.aber.ac.uk.
Nôl i'r brig
Manylion Cyswllt
Cyfathrebu a Materion CyhoeddusPrifysgol Aberystwyth
Adeilad yr Arglwydd Milford
Plas Gogerddan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3EB
Ffôn: 01970 621763 Ebost: cyfathrebu@aber.ac.uk