Ceirch newydd Aberystwyth yn cyrraedd Rhestr Genedlaethol o fri

Dr Catherine Howarth o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda gweddill y tîm bridio ceirch.

Dr Catherine Howarth o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda gweddill y tîm bridio ceirch.

05 Mawrth 2024

Mae pedwar math newydd o geirch a gafodd eu bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn sêl bendith ar y lefel uchaf wedi iddynt gael eu hargymell i ffermwyr gan fwrdd diwydiant y llywodraeth.

Mae’r Plant Varieties and Seeds Gazette, corff statudol y llywodraeth, yn cyhoeddi rhestr o hadau cymeradwy yn y Deyrnas Gyfunol er mwyn cynorthwyo ffermwyr a thyfwyr i ddethol y mathau gorau i’w plannu.

Wedi’u datblygu gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ceirch plisgyn y gwanwyn newydd Nova, ceirch noeth y gaeaf Avalon, a cheirch plisgyn gaeaf Rannoch a Harris, wedi’u hychwanegu at y Gazette ar gyfer 2024 oherwydd eu bod yn cynhyrchu’n dda ac oherwydd ansawdd eu grawn.

Mae Nova yn geirch plisg gwanwyn o ansawdd uchel sy'n cynhyrchu'n dda ac sy'n gallu gwrthsefyll afiechyd yn ardderchog. Mae Nova, Rannoch ac Avalon wedi'u cynnwys ym mlwyddyn gyntaf treialon y Rhestr a Argymhellir yn ogystal.

Mae mathau o geirch sydd wedi’u bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynrychioli dros 80% o farchnad ceirch gaeaf y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Dr Catherine Howarth o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae hon yn dipyn o gamp. Mae wir yn bluen yn ein het fod y mathau newydd hyn wedi cyrraedd y Rhestr Genedlaethol. Gall cymryd hyd at 15 mlynedd i ddatblygu mathau newydd o geirch, ac mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon yn deyrnged i holl waith caled y tîm yma.

“Mae ceirch yn cynnig buddiannau clir i iechyd pobl, gan gynnwys gostwng lefelau cholesterol. Mae hefyd yn gnwd mwy deniadol yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.”

“Mae gan waith gwyddonwyr IBERS ar wydnwch rhag plâu a chlefydau, cynnwys maethol uwch a gallu’r cnwd i ffynnu mewn hinsawdd sy’n newid hanes hir a nodedig o lwyddiant wrth gael amrywiaethau ar y Rhestr Genedlaethol. Mae hi’n fraint medru parhau â’r traddodiad hwnnw.”