Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain

O’r chwith i’r dde: Elsa Larrad, myfyrwraig o Adran Gwyddorau Bywyd yn trafod sut mae anifeiliaid yn treulio’u hamser o dan y dŵr gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar Rhun Lloyd, Osian Price, Thomas Sion Morgans, Elin Evans a Cati Jones, yng nghwmni Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Jon Timmis.

O’r chwith i’r dde: Elsa Larrad, myfyrwraig o Adran Gwyddorau Bywyd yn trafod sut mae anifeiliaid yn treulio’u hamser o dan y dŵr gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar Rhun Lloyd, Osian Price, Thomas Sion Morgans, Elin Evans a Cati Jones, yng nghwmni Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Jon Timmis.

12 Mawrth 2024

‘Amser’ yw thema’r ŵyl wyddoniaeth dridiau (12fed tan y 14eg o Fawrth) sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon ym  Mhrifysgol Aberystwyth.

Sut mae blodau'n cadw amser, sut mae afonydd yn newid dros amser a sut mae anifeiliaid yn treulio eu hamser o dan y dŵr, ac weithiau allan ohono; dyna rhai o’r arddangosiadau ymarferol yn y digwyddiad sy’n rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Mae cyfleoedd hefyd i brofi ymatebion cyflym iawn, dysgu am ynni cynaliadwy, brechlynnau a pha mor agos yw’r berthynas rhwng pobl a bananas.

Ac i selogion gemau cyfrifiadurol, mae arddangosfa o sut mae cyfrifiaduron a gemau wedi datblygu ers diwedd y 1970au.

Mae disgwyl i tua 1250 o ddisgyblion o ysgolion ar draws canolbarth a gorllewin Cymru ymweld â’r digwyddiad blynyddol poblogaidd, sydd wedi dod yn rhan sefydlog o’r calendr addysgu.

Yn ôl trefnydd yr ŵyl, Nia Gwyndaf, Pennaeth Dennu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r digwyddiad eleni wedi profi mor boblogaidd ag erioed:

“Mae’n bleser croesawu cymaint o bobl ifanc i Brifysgol Aberystwyth eto eleni fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain. Dros nifer o flynyddoedd, mae’r digwyddiad hwn wedi ennill ei le ar y calendr addysgu ac mae’n gyfle gwych i’n staff academaidd ac allgymorth ddangos sut mae gwyddoniaeth wrth galon rhai o ffenomenau mwyaf trawiadol bywyd ac yn effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn cymaint o ffyrdd cadarnhaol. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr ifanc i ystyried gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.”

Adeiladwyd y stondinau rhyngweithiol gan staff yn adrannau Gwyddorau Bywyd, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Mathemateg, Ffiseg a Seicoleg y Brifysgol a chynhaliwyd yr arddangosiadau a’r arbrofion gan fyfyrwyr israddedig, uwchraddedig yn ogystal â staff academaidd.