Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn rhan o oriel celf gyfoes genedlaethol newydd

18 Mawrth 2024

Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn rhan o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, a gynlluniwyd i wneud casgliadau celf cyhoeddus yn fwy hygyrch ac i gefnogi artistiaid yng Nghymru.

Mae Canolfan y Celfyddydau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un o naw lleoliad a ddewiswyd i fod yn rhan o'r corff newydd, sy'n bwriadu arddangos gweithiau o'r casgliad cenedlaethol mewn orielau rhanbarthol.

Mae’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn gydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae’n ymrwymiad allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Mae arddangosfa gyntaf Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd Cymru yn cael ei harddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Wedi’i chyd-guradu gan bedwar teulu lleol, mae arddangosfa Teulu yn arddangos gwaith serameg ac animeiddio a grëwyd gan blant a theuluoedd, ochr yn ochr â gwaith artistiaid rhyngwladol megis Pablo Picasso ac artistiaid o Gymru, gan gynnwys Ceri Richards a Mary Lloyd Jones.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n newyddion cyffrous iawn bod yr arddangosfa gyntaf o dan y bartneriaeth oriel celf gyfoes genedlaethol bellach ar agor i’r cyhoedd. Mae’r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bydd y model newydd yma’n caniatáu i bobl fwynhau’r casgliad yn eu cymunedau eu hunain.

“Mae Teulu yn ffordd ardderchog o ddechrau’r prosiect, gyda’r cyhoedd wirioneddol wrth galon y gwaith o benderfynu beth sy’n rhan o’r arddangosfa.”

Meddai’r Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian: “Mae’r prosiect mawr yma’n cymryd cam pwysig ymlaen gyda’r arddangosfa hon. Mae’n symbol o’n dull newydd o wreiddio’r celfyddydau ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru, gan wneud ein casgliadau cenedlaethol yn fwy hygyrch ac ystyrlon i bobl, plant a chymunedau ledled ein gwlad.”

Meddai David Wilson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein bodd cael bod yn bartner yn y cydweithrediad cyffrous hwn, a fydd yn dod â gweithiau celf o'r casgliadau cenedlaethol yn nes at gymunedau ledled Cymru. Bydd y fenter uchelgeisiol hon yn ategu ein rhaglen gelfyddydol brysur yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, a bydd yn caniatáu i ni ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau arloesol i alluogi mwy o gymunedau ac artistiaid i ymwneud â byd bywiog y celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghymru, ac elwa ohono."

Gwahoddwyd y teuluoedd a oedd yn rhan o arddangosfa Teulu i gyfres o weithdai, orielau ac amgueddfeydd, gan gynnwys Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a nhw’n unig oedd yn gyfrifol am ddewis y darnau celf mawreddog i’w cynnwys yn yr arddangosfa. Bydd y darnau a ddewiswyd, sy’n cynnwys Vase zoomorphe, la Tarasque gan Picasso, ar fenthyg i’r arddangosfa o’r casgliad cenedlaethol, ochr yn ochr â gwaith arall o gasgliad Ysgol Gelf Aberystwyth.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffiaeth, darluniau, print, paentio a serameg ar themâu treulio amser gyda’n gilydd, bod mewn natur, a gofalu am yr amgylchedd.

Mae hefyd yn arddangos cerflunwaith rhyngweithiol, wedi’i ddylunio a’i greu gan yr artistiaid pensaernïol Jenny Hall a Karina Kolesnikaite o Fachynlleth, mewn cydweithrediad â’r artist tecstilau Ella Louise Jones.

Meddai Ffion Rhys, Curadur Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth:

“Mae'r arddangosfa hon wedi bod yn daith wirioneddol i ni, a hoffwn ddiolch o galon i'r teuluoedd sydd wedi cymryd rhan - rydym wedi dysgu cymaint ganddyn nhw, a'r gobaith yw y bydd y dysgu hwn yn galluogi mwy o deuluoedd i gael mynediad i'r celfyddydau - i gymryd rhan a mwynhau. Diolch o galon bawb, yn unigolion ac yn sefydliadau, sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosib.”

Bydd Teulu ar ddangos yn Oriel 1 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth tan 23 Mehefin 2024. Mynediad am ddim.