Y Brifysgol yn ymuno â Mai Di Dor

Llun: Chwith i’r Dde: Stephen Short, Technegydd Tiroedd; Jessica Farmer, Swyddog Cynaliadwyedd; a Martin Williams, Arweinydd Tîm Cynnal y Tiroedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn paratoi ar gyfer ‘Mai Di Dor’.

Llun: Chwith i’r Dde: Stephen Short, Technegydd Tiroedd; Jessica Farmer, Swyddog Cynaliadwyedd; a Martin Williams, Arweinydd Tîm Cynnal y Tiroedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn paratoi ar gyfer ‘Mai Di Dor’.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn ymgyrch ‘Mai Di Dor’ Plantlife unwaith eto eleni fel rhan o’i gwaith i hyrwyddo bioamrywiaeth ar ei champysau.

Ni fydd lawntiau a mannau glaswelltog ar gampysau Penglais, Gogerddan a Llanbadarn yn cael eu torri yn ystod mis Mai fel rhan o’r ymgyrch i fynd i’r afael â’r dirywiad byd-eang o rywogaethau peillio fel gloÿnnod byw a gwenyn, a rhoi hwb i blanhigion gwyllt cyn yr haf.

Bydd y gwaith cynnal a chadw ar feysydd chwarae’r Brifysgol ar Blaendolau a’r Ficerdy yn parhau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r fenter hon yn adeiladu ar waith i gyflwyno ardaloedd blodau gwyllt ar gampysau’r Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n cael eu torri unwaith y flwyddyn.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fel prifysgol sy’n gwneud ymchwil o’r radd flaenaf i newid hinsawdd a’i effeithiau ar fioamrywiaeth ledled y byd, mae’n briodol ein bod yn ymrwymo hefyd i hyrwyddo bywyd gwyllt ar ein campysau ein hunain.  Felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi ymuno ag ymgyrch Mai Di Dor Plantlife unwaith eto eleni, a byddwn yn annog eraill i wneud yr un peth. Y gobaith yw dod â manteision uniongyrchol i bryfed peillio, ond mae hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd sy’n cynnwys dod yn ystâd sero net erbyn 2030.”

Yn ôl Jessica Farmer, Swyddog Cynaliadwyedd Prifysgol Aberystwyth, gall peidio â thorri’r gwair am fis yn unig fod yn fanteisiol:

“Er bod mis o beidio â thorri gwair yn gymharol fyr i ni, i blanhigion a’u peillwyr gall wneud y byd o wahaniaeth. Mae rheoli gardd mewn modd llai dwys yn caniatáu i amrywiaeth ehangach o blanhigion dyfu am gyfnod hirach a chyrraedd eu cyfnod blodeuo, gan ddarparu cynefin i filoedd o infertebratau a pheillwyr eraill. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y gwanwyn, a gall cynyddu bioamrywiaeth ardal drwy gymryd rhan yn Mai Di Dor helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor yr ecosystem, yn ogystal â gwneud i lawntiau edrych yn fwy lliwgar.”

Fel rhan o'i hymrwymiad i hyrwyddo bioamrywiaeth mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal arolwg o rywogaethau a chynefinoedd ar ei hystâd y gwanwyn hwn.

Drwy gydweithio gyda chwmni Environment Systems Ltd o Aberystwyth, bydd yr arolwg yn darparu sail ar gyfer newid y ffordd y caiff cynefinoedd eu rheoli er mwyn annog bywyd gwyllt i ffynnu.

Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei chydnabod hefyd fel campws sy'n gyfeillgar i ddraenogod gan Gymdeithas Gwarchod Draenogod Prydain a dyfarnwyd y Faner Werdd i gampws Penglais a Llanbadarn am y gwaith hyrwyddo bioamrywiaeth.