Darlithoedd Cyhoeddus 2012/2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ystod eang o ddarlithoedd cyhoeddus difyr ac ysbrydolgar a fydd yn cyflwyno dadleuon herfeiddiol ac yn trafod ystod eang o bynciau.

Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn gweld manylion am y darlithoedd cyhoeddus a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd sydd i ddod, maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu, ac yn agored i bawb.


Dydd Mercher 17 Ebrill 2013 

Darlith Gyhoeddus

Mark Bishop (Serious Organised Crime Agency)
Prif Ystafell, Medrus. Penbryn. I ddechrau 1.30yp

Clicwch yma am rhagor o fanylion.


22 – 25 Gorffennaf 2013

Cynrychiolir Prifysgol Aberystwyth yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. 

Maes y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY


3 - 10 Awst 2013

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau diwylliannol gorau’r byd, yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych a bydd Aber yno am yr wythnos gyfan. 

Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fferm Kilford ger tref Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 4ER


Am fanylion am ddigwyddiadau ychwanegol a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth ewch i www.aber.ac.uk/news neu cysylltwch â’r Adran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus ar 01970 621568 communications@aber.ac.uk