Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth
Dod ar Ddiwrnod Agored prifysgol yw’r unig ffordd y gallwch fod yn siŵr fod y brifysgol sydd ar eich rhestr fer chi yn addas. Mae Diwrnodau Agored prifysgolion yn caniatáu i chi ymweld â’r adrannau o’ch dewis chi er mwyn gweld y cyfleusterau dysgu, y llety ac er mwyn cael blas ar y bywyd cymdeithasol y gallwch ddisgwyl ei fwynhau yn y brifysgol. Mae Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth yn hynod o boblogaidd ac edrychwn ymlaen at eich cyflwyno i’ch bywyd newydd "yn y brifysgol sydd ar frig tabl Bodlonrwydd Myfyrwyr y wlad."
Prifysgol Diwrnod Agored 
Dydd Mercher 4ydd Gorffennaf 2012
Oes gennych gwestiynau am y Diwrnod Agored? Hoffwch ni os ydych am atebion!

