Gwybodaeth i Athrawon ac Ymgynghorwyr
Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth 2012- cymorth gyda chostau teithio eich grwp…
Gwyddom eich bod chi eisiau i’ch disgyblion ddod o hyd i’r brifysgol orau er mwyn helpu iddynt wireddu pob uchelgais. Yr ydym hefyd yn sylweddoli ei bod hi weithiau’n anodd cyfiawnhau’r gost o fynd a grŵp o ddisgyblion i weld prifysgolion sydd tu allan i’ch dalgylch lleol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r niferoedd sy’n dod i’n Diwrnodau Agored ni wedi cynyddu’n aruthrol ac mae ein ymchwil yn dangos bod dau allan o bob tri disgybl sy’n dod i’n gweld yn dewis astudio yma.
Er mwyn eich helpu i ddod i’n gweld, yr ydym yn cynnig £100 i chi fel cymhorthdal at eich costau teithio. Er mwyn diolch i chi, ac unrhyw athro arall sydd am ddod i’r Diwrnod Agored, byddwn yn rhoi cinio am ddim i chi.
Gallwn sicrhau y bydd eich disgyblion mewn dwylo diogel yn ystod eu hymweliad, gan adael i chi ddarganfod y Brifysgol a’r ardal leol. Bydd llysgenhadon ac aelodau o staff ar gael i sicrhau bod eich disgyblion yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen, lle i fynd a sut i wneud y gorau o’r diwrnod. Bydd hyn hefyd yn gyfle da i’ch disgyblion siarad gyda’n myfyrwyr ni i ofyn am eu profiadau personol, ac i ddarganfon yn union sut fywyd sydd mewn prifysgol.
Bydd disgyblion yn elwa wrth siarad gyda darlithwyr ac wrth fynd ar deithiau o amgylch y campws, yn cynnwys:
- Adnoddau dysgu ac addysgu
- llety
- adnoddau chwaraeon ac
- Undeb y Myfyrwyr
Mae tri chyfle i chi a’ch myfyrwyr i ddod i’n gweld:
- Dydd Mercher,4ydd o Orffennaf 2012,
- Dydd Mercher 17eg o Hydref 2012 a
- Dydd Sadwrn, 20fed o Hydref 2012.
Sicrhewch eich lle drwy gysylltu â David Moyle, Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Cholegau: dom@aber.ac.uk, 01970 6221972.
Dewch a grŵp o fyfyrwyr i’n gweld ar ein Diwrnod Agored a gadewch i ni ddangos i chi pam mai ni yw’r Brifysgol orau yn y wlad am foddhad myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr*, ac mai ni sydd yn y 4ydd safle yn y DU am Ddysgu ac Addysgu.
* The Times Good University Guide 2010