Sgiliau i'r Gweithle i Uwchraddedigion
Mae gwell sgiliau i'r gweithle yn fantais ychwanegol i astudio gradd uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae cyflogwyr yn cydnabod y sgiliau uwch y mae astudiaeth uwchraddedig yn ei rhoi i chi a chaiff hyn ei adlewyrchu mewn cyflogau uwch pan fyddwch yn dechrau gweithio a llwybrau cyflym i ddyrchafiad. Yn nodweddiadol, mae cyflogwyr bellach yn chwilio am raddedigion sydd â sgiliau gwerthuso a dadansoddi uwch, gwell creadigrwydd ac arloesi, a sgiliau trefnu a meddwl beirniadol mwy sympathetig. Sgiliau y bydd astudiaeth Uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu rhoi i chi.
Bydd astudio gradd uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn gystadleuol yn eich gyrfa. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu mewn modd systematig, ar y cyd â staff a myfyrwyr eraill Prifysgol Aberystwyth, ac mewn amgylchedd lle gallwch ymchwilio ymhellach i unrhyw faes penodol o ddiddordeb yn yr amser sydd gennych.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ei gynnig i chi fel myfyriwr uwchraddedig/gradd uwch edrychwch ar y dolenni isod: