Uwchraddedigion - Sut mae gwneud cais
Darllenwch y canllawiau a ddarperir yn yr adran hon cyn cyflwyno’ch cais am astudiaeth uwchraddedig.
Cyn i chi wneud cais: dogfenaeth cynorthwyol, Gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr ymchwil.
Gwneud cais ar-lein: cyflwynwch gais yn syth ar-lein gan ddefnyddio UKPASS
Gwneud cais oddi ar-lein: cyflwynwch gais drwy e-bost, anfonwch cais bapur.
Ar ôl gwneud cais: beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno’ch cais.
Gofynion mynediad: gofynion mynediad cyffredinol.
Noder fod systemau ymgeisio gwahannol ar gyfer amryw o raglenni. Mae rhain yn cynnwys Cwrs Ymarferiad y Gyfraith sy’n defnyddion system ar-lein CAB a chyrsiau Ymarfer Dysgu TAR sy’n defnyddio system ar-lein y GTTR. Cysylltwch â’r Adran Gymraeg yn Aberystwyth [Dr. Robin Chapman: ttc@aber.ac.uk] os ydych yn bwriadu gwneud cais am y Tystysgrif mewn Cyfieithu sy’n cael ei ddysgu ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
Cynghorwn myfyrwyr i ymgeisio cyn gynted â phosibl:
- Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr ar gyfer Rhaglenni Ymchwil gyflwyno’u ceisiadau cyn diwedd Chwefror er mwyn cael eu hysteried am gyllid.
- Dylai ymgeiswyr sy’n bwriadu dod â’u teuluoedd gyflwyno’u ceisiadau cyn diwedd Chwefror.
- Cwrs amser-llawn MScEcon Gweinyddu Archifau: dyddiad cau o 15 Rhagfryr.
- Mae dyddiadau cau ymgeisio ar gyfer Dysgu o Bell dau fis cyn cychwyn y cwrs.
Dyddiadau Cychwyn
- Mae’r mwyafrif o gyrsiau a ddysgir yn cychwyn tua diwedd Medi.
- Mae cyrsiau Dysgu o Bell yn cychwyn ym mis Ebrill, Medi (Astudiaethau Gwybodaeth) a Hydref (Y Gyfraith a Throseddeg).
- Gall rhaglenni ymchwil (PhD, MPhil, LLM drwy Ymchwil) ddechrau ar ddiwrnod cyntaf ynrhyw fis o’r flwyddyn, er fod rhai eithriadau.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Graddedigion
Manylion Cyswllt
Dr Rhys WilliamsSwyddfa Derbyn Graddedigion
Canolfan Croesawu Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
SY23 3FB
Ffôn: (01970) 622270 Ffacs: (01970) 622921 Ebost: derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk Swyddfa Derbyn Graddedigion