Rhestr Wirio ar gyfer Gwneud Cais

Gwneud cais am Gwrs Uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth

Rhestr wirio o wneud cais i gofrestru

  1. Anfon 2 gopi o'r ffurflen gais gyda 2 eirda mewn amlen wedi'i selio
  2. Dylai ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau ymchwil gynnwys eu cynnig ymchwil (D.S. nid yw hyn yn berthnasol i gyrsiau Mathemateg a Ffiseg)
  3. Gwneud cais am gyllid ymchwil os yw'n briodol (Dyddiad cau 1 Chwefror neu 1 Mawrth)
  4. Cael cynnig amodol gan y Swyddfa Dderbyn (o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y daeth eich cais i law)
  5. I fyfyrwyr rhyngwladol, gwneud cais am fisa myfyriwr (caniatewch ddigon o amser i'ch cais gael ei brosesu)
  6. I siaradwyr Saesneg anfrodol, os bydd angen, gwneud cais ar gyfer y rhaglen iaith Saesneg academaidd cyn-sesiwn yn y Ganolfan Iaith a Dysgu (CID)
  7. Anfon y dogfennau y gofynnwyd amdanynt gan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion i fodloni amodau'r cynnig gwreiddiol (e.e. canlyniadau'r radd Baglor, prawf o ysgoloriaeth, cymhwyster iaith Saesneg)
  8. Cael cynnig diamod a rhif myfyriwr 9 digid
  9. Gwneud cais am lety ar-lein here, gan ddefnyddio'r rhif myfyriwr 9 digid (noder: gwarentir llety tan 31 Awst).
  10. Archebu pecyn dillad gwely ar-lein (pan fyddwch yn archebu eich llety)
  11. Derbyn eich cynnig llety ac anfon eich cytundeb trwydded a siec am y blaendal i'r brifysgol.
  12. Trefnu trafnidiaeth i'r DU/Aberystwyth – – gwnewch nodyn o'r dyddiadau canlynol:
    • Contractau llety yn dechrau ar 24 Medi 2011 (cysylltwch â'r Swyddfa Llety os ydych yn bwriadu cyrraedd cyn y dyddiad hwn)
    • Croeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol 25 Medi 2011
    • Tymor yn dechrau ar 26 Medi 2011
    • Sesiwn Gynefino i Uwchraddedigion 26 Medi 2011
    • NODER: MAE RHAI RHAGLENNI YN DECHRAU CYN 26 MEDI – EDRYCHWCH AR EICH LLYTHYR CYNNIG!
  13. Myfyrwyr rhyngwladol yn cysylltu â'r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion gan roi'r manylion canlynol:
    • Enw a rhif myfyriwr
    • Dyddiad cyrraedd
    • Maes awyr y byddwch yn hedfan iddo
    • Amser y byddwch yn cyrraedd y DU
    • Sut yr ydych yn bwriadu teithio i Aberystwyth (bws, trên?)