Gwybodaeth ar gyfer Uwchraddedigion Newydd

Llongyfarchiadau ar ennill eich lle ym Mhrifysgol Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Llunwyd y tudalennau canlynnol i’ch helpu ymgartrefu ac i wneud y mwyaf o’ch profiad fel myfyriwr neu myfyrwraig uwchraddedig yn Aberystwyth. Mae’r Llawlyfr i Uwchraddedigion yn ffynhonell bwysig o wybodaeth. Lawrlwythwch y Llawlyfr i Uwchraddedigion nawr.

Cofrestru

Bydd eich astudiaethiau uwchraddedig yn Aberystwyth yn cychwyn gyda’r Cofrestru sy’n arfodol i fyfyrwyr amser llawn newydd ei fynychu. Y Swyddfa Academaidd sy’n goruchwylio’r Cofrestru ac meant wedi trefnu dyddiadau ac amseroedd ar gyfer pob Adran. Ceir rhagor o fanylion ar dudalen Cofrestru i Uwchraddedigion. Nodwch fod rhaid i chi gwblhau’r broses dderbyn cyn cofrestru. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad eich bod yn barod i gofrestru, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Graddedigion.

Cynefino

Pan fuoch yn fyfyriwr is-raddedig buaswch wedi adnabod hyn fel Wythnos y Glas. Mae wythnos bwrpasol gan yr uwchraddedigion hefyd ar ddechrau’r Semestr ar gyfer Cofrestru a gweithgareddau I’ch cyflwyno I’r Brifysgol, eich Adran a thref Aberystwyth. Cair amserlen o’r digwyddiadau ar dudalen Rhaglenni Cynefino.

Wythnos Groeso i Uwchraddedigion

I’r rhai hynny ohonoch sy’n newydd i Aberystwyth, bob blwyddyn ar ddechrau’r tymor rydyn ni’n cynnal Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd. Yn ogystal â chwblhau’r Cofrestru ac Ymgynefino, mae’r Wythnos Groeso yn gyfle i wneud cyfeillion newydd, cyfarfod â chydweithwyr newydd a gweld pa gymorth cymdeithasol, chwaraeon ac academaidd sydd ar gael ichi. Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Brifysgol Aberystwyth a gobeithio y mwynhewch eich amser gyda ni. Lawrlwythwch Lyfryn yr Wythnos Groeso nawr.

Cerdyn Aber ac E-bost

Rhaid cael cyfrif e-bost a Cherdyn Aber er mwyn defnyddio gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiaduron a chyfryngau Prifysgol Aberystwyth. Gellwch gychwyn eich cyfrif e-bost a gwneud cais am gerdyn cyn cyrraed y Brifysgol. Os ydych wedi cwblhau’r broses dderbyn bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â thudalen Cyfrif E-bost a Cherdyn Aber.

Undeb y Myfyrwyr

Bydd Undeb y Myfyrwyr (h.y. Urdd y Myfyrwyr) yn trefnu digwyddiadau hefyd.

Telerau ac Amodau

Y mae'n amod cofrestru fod yn rhaid i bob myfyriwr dderbyn a chadw at drefiadaeth y Brifysgol fel a nodir yn y Rheolau, Rheoliadau a Gwybodaeth i Fyfyrwyr. Gellir cael copi o'r Rheolau, Rheoliadau a Gwybodaeth i Fyfyrwyr sydd mewn grym ar hyn o bryd trwy gysytllu â'r Swyddfa Denu a Derbyn Myfyrwyr (01970 622021).

Rhagor o Wybodaeth ar gyfer Uwchraddedigion

Amserlen Cofrestru i Uwchraddedigion
Digwyddiadau Cynefino i Uwchraddedigion
Gwybodaeth am Gerdyn Aber ac E-bost
Llety ar gyfer Uwchraddedigion
Gwybodaeth ynglyn a cyrraedd Aberystwyth
Canolfan Chwaraeon
Undeb y Myfyrwyr