Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Gwybodaeth am y Cwrs Uwchraddedig

Mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau uwchraddedig i chi, ac mae ganddi enw da am ei rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil. Mae'r adran hon o'r wefan yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y dewisiadau sydd ar gael i chi.

I ddechrau, bydd yn rhaid i chi ystyried eich dull o astudio, oherwydd y gall gyfyngu ar eich dewis o gyrsiau a chyllid. Yn Aberystwyth gallwch astudio graddau amser-llawn, rhan-amser, dysgu o bell (mewn dwy adran yn unig), gradd allanol neu radd hollt, fel myfyriwr ar ymweliad neu gallwch ymgymryd ag astudiaeth uwchraddedig heb gymhwyster.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw un o'r rhain ceir diffiniadau o'r gwahanol fathau o gyrsiau yma.

Bydd yn rhaid i chi hefyd ystyried a ydych eisiau astudio cwrs ymchwil neu gwrs a ddysgir. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau unigol, ewch i'r tudalennau cyrsiau ymchwil neu gyrsiau a ddysgir, neu defnyddiwch yr adnodd chwilio isod i ddod o hyd i'r holl gyrsiau uwchraddedig yn ôl pwnc.

Mae'r Cyrsiau a Ddysgir (MA, MSc, MScEcon, LLM, MBA, MRes, Diploma Uwchraddedig a Thystysgrif Uwchraddedig) yn seiliedig yn bennaf ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial ac ysgolion astudio.

Mae'r Cyrsiau Ymchwil (PhD, MPhil ac LLM trwy Ymchwil) yn seiliedig yn llwyr neu'n bennaf ar ymchwil annibynnol y myfyriwr o dan gyfarwyddyd o leiaf un goruchwyliwr.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau penodol, cysylltwch â'r adran briodol.