Rheoliad Ynglyn â Chynnydd Academaidd - 1

 Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd 2012/13

1.       RHEOLIAD ACADEMAIDD YNGHYLCH CYNNYDD ACADEMAIDD

1.1   Caniateir i fyfyriwr barhau â’i gwrs astudio cymeradwy dim ond os yw’n parhau i wneud cynnydd derbyniol, fel a ddangosir gan y ffaith ei fod yn bresennol mewn dosbarthiadau, yn perfformio’n foddhaol mewn arholiadau ac yn cyflawni’n briodol unrhyw waith arall a osodir i’r myfyriwr.

1.2   Os nad yw cynnydd academaidd myfyriwr yn foddhaol, gellir:

(a) ei wahardd rhag sefyll arholiadau yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(b) mynnu ei fod yn gadael y Brifysgol dros dro neu’n barhaol.

1.3   Bydd gan y Deon rym i fynnu bod myfyriwr nad yw ei berfformiad academaidd yn ddigonol:

       (a) yn cael ei wahardd rhag sefyll arholiadau yn gyfan gwbl neu’n rhannol; a/neu

       (b) yn gadael y Brifysgol dros dro neu’n barhaol.

1.4   Caiff gofynion o’r fath fod yn absoliwt neu’n amodol ar i’r myfyriwr dan sylw fethu â chydymffurfio â gofyniad sy’n gysylltiedig â’i astudiaethau a bennwyd gan y Deon.

2.       MYFYRWYR SY’N METHU Â BODLONI’R GOFYNION O RAN PRESENOLDEB MEWN DOSBARTHIADAU A/NEU GYFLWYNO GWAITH

2.1  Os yw aelod staff wedi nodi bod myfyriwr yn methu â bodloni’r gofynion o ran presenoldeb mewn dosbarthiadau a/neu gyflwyno gwaith, dylai Pennaeth yr Adran/y Bwrdd neu unigolyn a ddynodwyd yn ei le, fel rheol, gyfweld y myfyriwr a chyflawni unrhyw gamau ymgynghori ffurfiol eraill y mae’n tybio eu bod yn angenrheidiol.

2.2  Ar ôl cyfweld y myfyriwr ac ar ôl cyflawni unrhyw gamau ymgynghori priodol, os nad oes eglurhad boddhaol wedi dod i’r amlwg, bydd Pennaeth yr Adran/y Bwrdd yn anfon adroddiad at y Deon priodol, ac yn anfon copi at y Dirprwy Is-ganghellor.

2.3  Bydd y Deon yn cael gafael ar unrhyw adroddiadau eraill y mae’n tybio eu bod yn angenrheidiol, yn cyfweld y myfyriwr os yw’n briodol, ac yn penderfynu pa un o’r camau gweithredu a ganlyn i’w gymryd:

2.3.1          Rhoi rhybudd ffurfiol drwy’r Dirprwy Is-ganghellor sy’n nodi, os na fydd y myfyriwr yn gwella, y bydd:

     naill ai (a) yn cael ei wahardd rhag sefyll arholiadau yn gyfan gwbl neu’n rhannol;  

     neu (b) yn gorfod gadael y Brifysgol dros dro neu’n barhaol.

2.3.2 Rhoi adroddiad i’r Awdurdod Addysg Lleol neu ffynhonnell cymorth ariannol arall.

2.3.3 Cymeradwyo gwahardd y myfyriwr rhag sefyll arholiadau yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

2.3.4 Mynnu bod y myfyriwr yn gadael y Brifysgol dros dro neu’n barhaol.

2.4  Os nodir bod myfyriwr yn ‘Anfoddhaol’ yn ystod y trydydd tymor, bydd y Deon yn cyfweld y myfyriwr hwnnw fel a nodir yn 2.1(a) uchod. Ni chaiff myfyriwr o’r fath ei wahardd rhag sefyll unrhyw arholiad ar ddiwedd y sesiwn, ond bydd y Deon yn rhoi gwybod i’r myfyriwr y bydd Bwrdd Arholi’r Gyfadran berthnasol yn ystyried unrhyw adroddiadau adrannol ar ddiwedd y sesiwn. Os yw’n briodol, rhaid i’r Deon roi gwybod i’r myfyriwr y caiff Bwrdd Arholi’r Gyfadran gofnodi bod y myfyriwr yn ‘Anfoddhaol’ a phenderfynu na ddylid caniatáu i’r myfyriwr ddychwelyd i’r Brifysgol, yn amodol ar unrhyw amodau ynghylch cyflwyno gwaith ysgrifenedig sy’n weddill neu sefyll profion adrannol ychwanegol a bennir gan y Bwrdd.

2.5 Diwrnod cyntaf y trydydd tymor yw’r dyddiad olaf y caiff y Deon wahardd myfyriwr o’r Brifysgol neu gymeradwyo penderfyniad Adran i wrthod cofrestru myfyriwr ar gyfer arholiadau.

2.6 Ni ellir ond penderfynu gwrthod cofrestru myfyriwr ar gyfer arholiadau am resymau academaidd ar ôl cyfeirio’r mater at y Deon ac ar ôl iddo gymeradwyo’r penderfyniad hwnnw.

2.7 Bydd y Deon yn rhoi gwybod i’r myfyriwr a’r Dirprwy Is-ganghellor am ei benderfyniad ym mhob achos.

2.8 Bydd y Dirprwy Is-ganghellor yn rhoi gwybod i’r myfyriwr yn ysgrifenedig cyn pen saith diwrnod am benderfyniad y Deon ac am hawl y myfyriwr i apelio.

2.9 Mae gan y myfyriwr bedwar diwrnod ar ddeg i gyflwyno apêl. Gellir lawrlwytho’r ffurflen yma:

       http://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/student/appeals_form_W.pdf

3           PERFFORMIAD MEWN ARHOLIADAU

3.1 Rhaid i Fwrdd Arholi’r Gyfadran benderfynu pa fyfyrwyr, o ganlyniad i’w perfformiad yn yr arholiadau:

3.1.1 Na chaniateir iddynt ddychwelyd i’r Brifysgol.

3.1.2 Y caniateir iddynt ddychwelyd i’r Brifysgol i barhau â’u hastudiaethau yn amodol ar ddarparu gwarant ariannol foddhaol.

3.1.3 Y caniateir iddynt ailsefyll arholiadau fel achosion arbennig.

3.2 Rhaid i’r Dirprwy Is-ganghellor roi gwybod i’r myfyriwr am benderfyniad Bwrdd Arholi’r Gyfadran. Dylai’r llythyr hefyd roi gwybod i’r myfyriwr bod ganddo/ganddi hawl i apelio i’r Pwyllgor Cynnydd Academaidd a bod rhaid cyflwyno’r apêl honno’n ysgrifenedig gan sicrhau ei bod yn dod i law’r Dirprwy Is-ganghellor cyn pen pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl dyddiad llythyr y Dirprwy Is-ganghellor, a dylid cynnwys y datganiad a ganlyn yn y llythyr hwn:

Dylai’r myfyrwyr sylwi fod ganddynt hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi’r Gyfadran. Rhaid anfon unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad yn ysgrifenedig at y Dirprwy Is-ganghellor gan sicrhau ei bod yn dod i’w law cyn pen pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl dyddiad y llythyr hwn. Dim ond apeliadau sy’n seiliedig ar amgylchiadau personol eithriadol nad oedd yr Adran na Bwrdd Arholi’r Gyfadran yn gwybod amdanynt ar adeg yr arholiad ac y gellir dangos eu bod wedi effeithio’n andwyol ar berfformiad yr ymgeisydd yn yr arholiad y mae’r Brifysgol yn barod i’w hystyried.

Ni fydd y Brifysgol ond yn ystyried apêl os all myfyriwr roi rhesymau da pam na roddwyd gwybod i Fwrdd Arholi’r Adran neu’r Gyfadran berthnasol am y seiliau dros apelio cyn iddo benderfynu.

Mae gan fyfyrwyr hawl i ofyn i wirio’r ffaith fod y Byrddau Arholi o dan sylw wedi ystyried amgylchiadau perthnasol a allai fod wedi effeithio’n andwyol ar eu perfformiad mewn arholiad ac y rhoddwyd gwybod i’r adrannau amdanynt o’r blaen.

3.3 Yng nghyd-destun y weithdrefn hon, mae cyfeiriadau at arholiad(au) yn cynnwys pob math o asesiad.

4           SEILIAU DROS APELIO

4.1. Ni chaiff apeliadau ond eu hystyried os ydynt yn seiliedig ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn ac os darperir tystiolaeth ategol gyda nhw nad oedd ar gael i’w chyflwyno i Fwrdd Arholi’r Gyfadran:

4.1.1 Amgylchiadau personol eithriadol. Pe bai wedi bod yn bosib i ymgeisydd roi gwybod i’r Bwrdd Arholi am yr amgylchiadau eithriadol cyn ei gyfarfod, ni ellir crybwyll yr amgylchiadau hynny fel seiliau dros apelio ar ôl hynny.

4.1.2 Diffygion neu afreoleidd-dra o ran cynnal yr arholiadau neu o ran y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu o ran y cyngor a oedd yn gysylltiedig â nhw, lle mae achos prima facie y gallai diffygion, afreoleidd-dra neu gyngor o’r fath fod wedi effeithio’n andwyol ar berfformiad yr ymgeisydd.

4.2  Mewn achosion o’r fath, ni chaiff apêl ond ei hystyried os all y myfyriwr roi rhesymau da pam na roddwyd gwybod i’r Adran neu’r Gyfadran berthnasol am y seiliau dros apelio cyn hynny.

4.3  Bydd y Dirprwy Is-ganghellor yn gwrthod apeliadau nad ydynt yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod ac ni fydd y Pwyllgor Cynnydd Academaidd yn eu hystyried.

4.4 Ni chaiff apeliadau sy’n seiliedig ar siom neu anfodlonrwydd â chanlyniad arholiad, neu sy’n cwestiynu barn academaidd, eu hystyried, ac felly cânt eu gwrthod.

4.5 Ni chaiff apeliadau sy’n seiliedig ar anallu myfyriwr i ymgyfarwyddo â gofynion y cwrs ynghylch presenoldeb, cyflwyno gwaith a dulliau asesu eu hystyried, ac felly bydd y Dirprwy Is-ganghellor yn eu gwrthod.

4.6 Pan fyddant yn apelio, rhaid i’r myfyrwyr ddatgan yn glir yn erbyn pa fodiwlau y maent yn apelio, pa elfen (gwaith cwrs/arholiad/cyflwyniad/arall) o’r modiwl hwnnw yr effeithiwyd arni, a rhaid iddynt ddangos yn glir effaith eu hamgylchiadau ar eu perfformiad o ran yr elfen honno. Rhaid i’r myfyrwyr hefyd ddatgan yn glir yr hyn y maent yn dymuno ei gyflawni drwy apelio.

4.7 Bydd gan unrhyw fyfyriwr y mae ei apêl yn bodloni’r meini prawf i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Cynnydd Academaidd hawl i ymddangos gerbron y Pwyllgor a chaiff unigolyn o’i ddewis fynd gydag ef/hi i’r cyfarfod hwnnw, er enghraifft, cyd-fyfyriwr (myfyriwr sydd wedi ymrestru) neu Swyddog Sabothol neu Gynghorydd Myfyrwyr o Undeb y Myfyrwyr neu aelod o’r staff academaidd.

4.8 Os yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol, rhaid rhoi gwybod i’r Brifysgol o leiaf dri diwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod y Pwyllgor.

4.9 Bydd y Pwyllgor yn rhoi gwybod i’r myfyriwr am y penderfyniad ynghylch yr apêl cyn pen saith diwrnod. 

5           APELIO I’R PWYLLGOR CYNNYDD ACADEMAIDD

5.1 Pan ddaw apêl i law sy’n seiliedig ar un neu ragor o’r seiliau dilys a amlinellwyd uchod, rhaid i’r Dirprwy Is-ganghellor ofyn i’r adran berthnasol wirio’r ffeithiau y mae’r apêl yn cyfeirio atynt. Rhaid i’r Dirprwy Is-ganghellor sicrhau bod y rhain yn cael eu gwirio mewn pryd i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Cynnydd Academaidd.

5.2 Ar ôl i apêl ddod i law, rhaid i’r Dirprwy Is-ganghellor ysgrifennu i ofyn i’r myfyriwr a yw am ymddangos gerbron y Pwyllgor Cynnydd Academaidd, ac os felly, a yw am ddod ag unigolyn o’i ddewis gydag ef, er enghraifft cyd-fyfyriwr (myfyriwr sydd wedi ymrestru) neu Swyddog Sabothol neu Gynghorydd Myfyrwyr o Undeb y Myfyrwyr neu aelod o’r staff academaidd.

5.3 Rhaid i’r Senedd sefydlu Pwyllgor Cynnydd Academaidd. Rhaid i’r Pwyllgor hwnnw gynnwys yr aelodau a ganlyn:

      (a) Un Dirprwy Is-ganghellor (neu eilydd).

      (b) Deoniaid y Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol, a’r Gwyddorau (neu eilyddion).

      (c) Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.

5.4 Rhaid cael tri aelod i gael cworwm. Er mwyn i’r Pwyllgor gael cworwm, bydd yn ofynnol sicrhau cydbwysedd rhyw ymhlith y rheini sy’n bresennol.

5.5 Swyddogaeth y Pwyllgor hwn yw ystyried apeliadau a wneir gan fyfyrwyr sy’n codi o benderfyniadau a wnaed gan y Deon, Byrddau Arholi’r Cyfadrannau neu Bwyllgor Ymchwilio i Honiadau o Arferion Annheg a sefydlir o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Arferion Annheg.

5.6  Ni chaiff Deon y Gyfadran berthnasol nac unrhyw aelod arall sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag astudiaethau’r myfyriwr gymryd rhan neu fod yn bresennol ym mhenderfyniad y Pwyllgor. Caiff ddarparu gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor.

5.7   O ran apeliadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth feddygol sy’n gysylltiedig â Byrddau Semester 1 ond nad yw’n dod i’r amlwg tan Fyrddau Semester 2, bydd y gweithdrefnau a ganlyn yn berthnasol:

5.7.1          caiff tystiolaeth feddygol ei hystyried yn y lle cyntaf gan Banel Achosion Arbennig y Gyfadran fel arfer pan fydd yn cwrdd i ystyried tystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r rownd nesaf o arholiadau, i bennu a yw’n syrthio o fewn y canllawiau a bennwyd gan y Panel;

5.7.2          bydd y Pwyllgor Cynnydd Academaidd yn ystyried apeliadau o’r fath yng ngoleuni sylwadau’r Panel am ddilysrwydd y dystiolaeth a ddarparwyd yn awr.

6           UWCHRADDEDIGION YMCHWIL

6.1 Caniateir i fyfyriwr ymchwil uwchraddedig barhau â’i gwrs astudio cymeradwy dim ond os yw’n parhau i wneud cynnydd boddhaol o ran y rhaglen waith a’r amserlen y cytunwyd arnynt gan y goruchwylydd, gan gynnwys cyflwyno drafftiau ysgrifenedig o fewn cyfnodau y cytunwyd arnynt.

6.2 Os nad yw cynnydd academaidd myfyriwr ymchwil uwchraddedig yn foddhaol, gellir:

6.2.1 ei atal rhag camu ymlaen o’r cyfnod prawf;

6.2.2 ei atal rhag camu ymlaen i’r flwyddyn ymchwil nesaf;

6.2.3 ei atal rhag uwchraddio o radd Ymchwil Meistr i Ddoethuriaeth.

6.3 Ar sail argymhelliad yr Adran/y Bwrdd Arholi/Pwyllgor Monitro Ymchwil y Gyfadran/y Bwrdd Graddau Ymchwil, bydd gan y Deon rym i fynnu bod myfyriwr nad yw ei berfformiad academaidd yn ddigonol yn cael:

6.3.1 ei atal rhag camu ymlaen o’r cyfnod prawf;

6.3.2 ei atal rhag camu ymlaen i’r flwyddyn ymchwil nesaf;

6.3.3 ei atal rhag uwchraddio o radd Ymchwil Meistr i Ddoethuriaeth;

6.3.4 ei israddio o Ddoethuriaeth i radd Ymchwil Meistr.

6.4 Caiff gofynion o’r fath fod yn absoliwt neu’n amodol ar i’r myfyriwr o dan sylw fethu â chydymffurfio â gofyniad sy’n gysylltiedig â’i astudiaethau a bennwyd gan Bwyllgor Monitro Ymchwil y Gyfadran/y Bwrdd Graddau Ymchwil.

6.5 Rhaid rhoi gwybod i’r myfyriwr am y canlyniad drwy lythyr.

7           PWYLLGORAU MONITRO YMCHWIL Y CYFADRANNAU / Y BWRDD GRADDAU YMCHWIL

7.1 Rhaid i’r Bwrdd Graddau Ymchwil benderfynu ar gynnydd myfyrwyr ymchwil uwchraddedig gan ystyried adroddiadau gan bwyllgorau monitro’r adrannau a Phwyllgorau Monitro Ymchwil y Cyfadrannau.

7.2  Mae gan fyfyriwr fis o ddyddiad y llythyr i gyflwyno apêl ysgrifenedig yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Monitro Ymchwil y Gyfadran/y Bwrdd Graddau Ymchwil.

7.3  Rhaid i unrhyw apêl o’r fath fod yn seiliedig ar:

naill ai

7.3.1. amgylchiadau personol eithriadol nad oedd y Pwyllgor yn gwybod amdanynt pan wnaeth ei benderfyniad

neu

7.3.2. anawsterau â’r cyfleusterau ymchwil neu’r trefniadau goruchwylio na roddwyd gwybod i’r adran neu’r Pwyllgor amdanynt o’r blaen.

7.4 Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff apêl ond ei hystyried os all y myfyriwr roi rhesymau da pam na roddwyd gwybod i’r Adran neu’r Pwyllgor am y seiliau dros apelio cyn hynny.

7.5  At ddibenion gwrando ar apeliadau o dan yr adran hon o’r Rheoliad Academaidd, rhaid i’r Deon Astudiaethau Uwchraddedig fod ymhlith aelodau’r Pwyllgor Cynnydd Academaidd.

8           ADOLYGIAD ANNIBYNNOL

Yn unol â Deddf Addysg Uwch 2004, mae’r Brifysgol yn tanysgrifio i’r cynllun annibynnol ar gyfer adolygu cwynion myfyrwyr. Ar ôl i ymgeisydd ddilyn pob trefn fewnol, caiff gyflwyno’i gŵyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol, ar yr amod bod y gŵyn yn gymwys i gael ei hystyried o dan ei rheolau.

Os bydd ymgeisydd yn penderfynu cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol, bydd rhaid i Ffurflen Gwyno Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol gyrraedd Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol cyn pen tri mis ar ôl dyddiad y llythyr Cwblhau Gweithdrefnau.

Mae taflen Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol, An Introduction to the OIA for Students, ar gael i’w lawrlwytho yn

http://www.oiahe.org.uk/media/34396/oia_intro_leaflet.pdf ac mae dolen at Ffurflen Gwyno Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ar gael ar dudalen 8. Fel arall, gellir cysylltu â’r Swyddfa drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt a ganlyn:

Ffôn – 0118 959 9813

E-bost – enquiries@oiahe.org.uk

Post – Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol Addysg Uwch (OIAHE), Third Floor, King’s Reach, 38-50 Kings Road, Reading, RG1 3AA.

Cewch hyd i ganllawiau ynghylch cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol a’r Ffurflen Gwyno ar wefan Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol hefyd http://www.oiahe.org.uk/making-a-complaint-to-the-oia.aspx.

Efallai y bydd yr ymgeisydd hefyd am ofyn am gyngor gan Undeb y Myfyrwyr ynghylch cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.

Fel arfer, ni fydd Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ond yn adolygu materion a gafodd eu trin a’u trafod drwy weithdrefnau mewnol y Brifysgol.