Apelio
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
- 14.
- Apelio
- 14.1.
- Dim ond ar y seiliau canlynol y gall ymgeisydd a gafwyd yn euog o ymddygiad annheg mewn arholiad gyflwyno apêl:
- afreoleidd-dra yn y modd y cynhaliwyd y drefn ymddygiad annheg ac/neu
- amgylchiadau personol eithriadol na thynnwyd sylw'r Pwyllgor Ymchwilio atynt ac y gellir dangos eu bod yn berthnasol i'r ymddygiad annheg.
- 14.2.
- Mae gan y Dirprwy Is-Ganghellor yr hawl i beidio â chaniatáu apeliadau.
- 14.3.
- Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn cyfeirio apeliadau (nad ydyw wedi gwrthod eu caniatáu) at y Pwyllgor Cynnydd Academaidd.
- 14.4.
- Rhoddir manylion y drefn apelio yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwn.
- 14.5.
- Gall y Pwyllgor Cynnydd Academaidd benderfynu
- 14.5.1
- Gwrthod yr apêl;
- 14.5.2
- Cyfeirio'r achos yn ôl at y Pwyllgor Ymchwilio gwreiddiol i adolygu'r gosb a bennwyd;
- 14.5.4
- Gofyn i Bwyllgor Ymchwilio newydd ailwrando ar yr achos.