Diffiniad o ymddygiad annheg
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Y drefn i'w dilyn mewn achosion lle honnir bod ymddygiad annheg wedi digwydd mewn arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a asesir a graddau ymchwil.
- Diffiniad o ymddygiad annheg
Ymddygiad annheg yw cyflawni unrhyw weithred lle gall unigolyn sicrhau mantais na chaniateir iddo ef ei hun neu i rywun arall. Bydd hyn yn berthnasol pan fo'r ymgeisydd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall/personau eraill. Gall unrhyw weithredoedd gael eu cynnwys o fewn y diffiniad hwn, boed hwy'n digwydd yn ystod neu mewn perthynas ag arholiad ffurfiol, darn o waith cwrs neu unrhyw fath ar asesiad a wneir wrth ymgeisio am gymhwyster Prifysgol.
Dangosir enghreifftiau o ymddygiad annheg isod. Nid yw'r enghreifftiau hyn yn gynhwysfawr, a gallai achosion eraill gael eu cynnwys o fewn diffiniad cyffredinol ymddygiad annheg.