Cynllun Strategol 2009 - 2013
10. Llywodraethu
Bod yn sefydliad ymatebol, effeithlon ac atebol.
1. Targedau
Dyma’r hyn y bydd y Brifysgol yn ei wneud yn ystod y cyfnod hyd at Orffennaf 2010:
- dechrau trefn o fonitro perfformiad y sefydliad gan y Cyngor yn unol â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol y cytunwyd arnynt,
- cyflwyno system mesur perfformiad ffurfiol ar gyfer y Cyngor a’i Bwyllgorau,
- cynnal adolygiad o’r gwasanaethau canlynol i’r Brifysgol er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i gael gwerth am arian: (1) caffael gwasanaethau cyfreithiol a (2) caffael gwasanaethau archwilio mewnol ac allanol.
Dyma’r hyn y bydd y Brifysgol yn ei wneud yn y cyfnod hyd at Orffennaf 2011:
- llunio Strategaeth Gwerth am Arian a’i chyflwyno i Bwyllgor Archwilio y Brifysgol, a hynny er mwyn hyrwyddo darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd,
- ceisio lleihau’r gost weinyddol, mewn termau real, am bob myfyriwr sy’n cyfateb i amser llawn (fel y dynodwyd gan CCAUC) er mwyn iddi fod yn £3,850 erbyn 2010/11 (adolygir yn sgil creu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig),
- datblygu Strategaeth Gyfathrebu y Brifysgol a’i rhoi ar waith.
2. Risgiau
Mae’r risgiau isod wedi’u nodi ac fe gânt eu monitro a’u rheoli drwy gydol cyfnod y cynllun:
- methu â phenodi i’r Cyngor aelodau newydd sydd â’r cydbwysedd priodol o sgiliau a phrofiad,
- methu â chynnal iechyd ariannol da fel y mae’n cael ei fesur gan y Cyngor Cyllido.
23/06/09