Cynllun Strategol 2009 - 2013
9. Cynaliadwyedd, Rheolaeth Ariannol a Rheoli Asedau
Gwneud y defnydd gorau posibl o’n holl asedau dynol, diriaethol ac ariannol i gynyddu cymaint â phosibl ar yr incwm o amrywiaeth eang o ffynonellau ac i reoli’n busnes yn effeithlon er mwyn i ni gynnal ein sefydlogrwydd ariannol yn ogystal â’n twf a’n datblygiad at y dyfodol.
Gan ei bod hi’n gweithredu mewn hinsawdd ariannol a all newid cryn dipyn, bydd y Brifysgol yn parhau i geisio rheoli ei hadnoddau’n ofalus ac yn rhagweithiol i sicrhau bod modd iddi gynnal ei gweithgareddau craidd a buddsoddi mewn datblygiadau at y dyfodol.
1. Amcanion Strategol
Nod y Brifysgol yw :
- sicrhau bod yr holl ddangosyddion ariannol yn gadarn a bod y sefyllfa ariannol yn wydn ac yn gynaliadwy,
- mynd ar drywydd ffrydiau incwm newydd yng nghyd-destun asesiad gofalus o’i hymrwymiadau,
- cynyddu ei hincwm drwy, er enghraifft:
- ddatblygu’r gwaith denu myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol,
- cynyddu’r grantiau a’r contractau ymchwil,
- rheoli gwaddoliadau yn ofalus,
- gwella gweithgarwch cynfyfyrwyr a chodi arian gan gynfyfyrwyr a ffynonellau corfforaethol,
- sicrhau cynaliadwyedd drwy gynhyrchu gwarged blynyddol priodol ar draws ei holl weithgareddau,
- monitro’i gwariant yn rheolaidd a rhoi cyngor ariannol clir i bob aelod o’r staff sydd â rheolaeth dros ganolfan gost,
- parhau i wella’r rheoli ar ynni ar draws ei hystâd breswyl ac amhreswyl ac ym mhob un o’i gweithgareddau.
2. Gweithredu
Dyma’r hyn y bydd y Brifysgol yn ei wneud er mwyn ceisio cyflawni ei hamcanion strategol mewn amgylchedd ariannol mwyfwy heriol:
- monitro’i pherfformiad mewn perthynas â’r 14 o Fatricsau Sbardun Dangosyddion Perfformiad Allweddol a ddarparwyd gan y Cyngor Cyllido i fesur pa mor gynaliadwy yw’r sefydliad o dan y pedwar pennawd allweddol, sef Arian, Pobl, Offer ac Adeiladau,
- monitro’i Pholisi Rheoli Risg Gorfforaethol i sicrhau bod ganddi broses effeithiol o ganfod, gwerthuso a rheoli pob risg o bwys, ac i sicrhau bod y Gofrestr Risg yn gadarn ac wedi’i diweddaru,
- rhaeadru gweithdrefnau rheoli risg i’r holl feysydd gweithredol, gan gynnwys penaethiaid yr holl ganolfannau cost yn hynny,
- gwella’r gefnogaeth i aelodau o’r staff sy’n ymwneud ag ymgeisio am incwm o grantiau ymchwil, a hynny drwy gynyddu’r cymorth pwrpasol i ymchwil (gan gynnwys yr hyn a ddarperir drwy Bartneriaeth Ymchwil a Menter PA/PB), drwy hyfforddiant a ddarperir yn ganolog a thrwy weithgareddau mentora yn yr adrannau,
- rhoi cyngor a chymorth o ansawdd uchel i’r staff sy’n ceisio datblygu ymchwil drwy ei hecsbloetio’n fasnachol, drwy drosglwyddo gwybodaeth a thrwy weithgareddau’r drydedd genhadaeth,
- sicrhau bod gwariant cyfalaf ar seilwaith yn bodloni’r holl weithdrefnau caffael angenrheidiol fel y’u pennwyd yn y ddeddfwriaeth gyfredol, a hynny er mwyn sicrhau’r arferion gorau, cydymffurfio â’r gyfraith a chael gwerth am yr arian a wariwyd ar yr offer a brynwyd,
- parhau i ailddosbarthu adnoddau rhwng yr adrannau academaidd mewn ffordd sy’n gyson â’r System Dyrannu Adnoddau,
- parhau i gynnwys pwnc Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yng Nghylch Cynllunio blynyddol y Brifysgol,
- cyflwyno’r arferion gorau mewn materion sy’n ymwneud â’r agenda ADCDF drwy arweiniad yr Hyrwyddwr ADCDF sydd wedi’i benodi, a pharhau i fonitro gweithgaredd yn y maes hwn ledled y Brifysgol,
- rhoi ei Strategaeth Adnoddau Dynol ar waith, gan ganolbwyntio ar y targedau mewn chwe maes blaenoriaeth, sef denu a chadw staff, datblygu a hyfforddi staff, cyfle cyfartal, adolygu’r anghenion staffio, adolygiadau blynyddol o berfformiad a rheoli perfformiad gwael,
- monitro cyflwyno’r strwythur tâl a graddfeydd newydd fel rhan o’r broses o weithredu’r Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol ar Foderneiddio Strwythurau Tâl, a pharhau i weithio ar faterion sy’n ymwneud â’i weithredu,
- rhoi’r Strategaeth Ystadau (2008 – 2018) ar waith, gan gynnwys datblygu uwchgynllun ar gyfer y campws a datblygu a gweithredu strategaeth gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni ar gyfer yr ystâd gyfan,
- parhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Garbon a rhoi Polisi Rheoli Ynni a Dŵr y Brifysgol ar waith er mwyn gwella’r rheolaeth ar gyfleustodau,
- rhoi’r Strategaeth Datblygu Staff ar waith a gweithio i sicrhau bod hyfforddiant parhaus addas yn cael ei gynnig i staff ar bob lefel,
- cyflwyno newidiadau i’r modd y rheolir y gronfa gwaddoliadau,
- datblygu rhagor ar ein gweithgareddau codi arian a chynfyfyrwyr, gan gynnwys drwy waith y Swyddfa Ddatblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr.
3. Targedau
Dyma’r hyn y bydd y Brifysgol yn ei wneud yn ystod y cyfnod hyd at Orffennaf 2010:
- parhau i weithio i gyflawni’r targedau a sefydlwyd mewn perthynas â’r 14 o Fatricsau Sbardun Dangosyddion Perfformiad Allweddol a ddarparwyd gan y Cyngor Cyllido,
- parhau i weithio i gyflawni’r targedau a sefydlwyd yn set bwrpasol y Brifysgol o Ddangosyddion Perfformiad,
- datblygu uwchgynllun ar gyfer y campws a pharhau i leihau’r gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni ar yr ystadau academaidd a phreswyl fel ei gilydd, yn unol ag amcanion y Strategaeth Ystadau (2008 – 2018),
- ystyried canlyniadau’r Adolygiad Strategol o weithgareddau casglu arian y Brifysgol a datblygu strategaeth i gynyddu’r incwm a gynhyrchir o weithgareddau o’r fath,
- cyflwyno’r cynlluniau rheolaeth asedau a buddsoddi a ymgorfforwyd yn y Strategaeth Buddsoddi Cyfalaf a pharhau i adolygu cynnydd y gwaith sydd wedi’i gynnwys yn y strategaeth hon,
- rhoi’r cynigion diwygiedig ar gyfer rheoli risg ar waith, gan olygu bod yr holl feysydd gweithredol yn nodi risgiau drwy gyfrwng penaethiaid canolfannau cost.
Dyma’r hyn y bydd y Brifysgol yn ei wneud yn ystod y cyfnod hyd at Orffennaf 2011:
- sicrhau gwarged gweithredu o £2 miliwn o leiaf,
- gweithredu elfennau allweddol y Strategaeth Ystadau (2008 – 2018),
- ceisio cwtogi 10% ar allyriadau CO2 pob myfyriwr yn yr adeiladau academaidd a 5% ar allyriadau pob myfyriwr yn adeiladau preswyl y myfyrwyr,
- cyflwyno a chynnal system reoli amgylcheddol sydd wedi’i hardystio hyd at lefel ISO 14001.
4. Risgiau
Mae’r risgiau isod i lwyddiant yn y maes hwn wedi’u nodi a bydd y Brifysgol yn eu monitro ac yn eu rheoli drwy gydol y cyfnod:
- methu â chyflawni’r niferoedd o fyfyrwyr sy’n cyfateb i rai amser llawn a gynlluniwyd,
- methu â rhagori ar y lefelau cyfredol o incwm ymchwil mewn amgylchedd ymchwil mwyfwy cystadleuol,
- methu â sicrhau gwarged priodol,
- methu â denu a chadw staff o ansawdd uchel,
- methu â chyrraedd ei thargedau o ran y 14 o Fatricsau Sbardun Dangosyddion Perfformiad Allweddol,
- methu â chael ei hariannu ar sail a fydd yn ei galluogi i gystadlu â sefydliadau addysg uwch yng ngweddill y DU,
- methu â rheoli rhaglenni cyfalaf yn effeithiol,
- gostyngiadau mewn nawdd cyhoeddus i Addysg Uwch.