Eich Iechyd

Bethan Trigg, Hefina James ac Angela Lloyd-JonesYn ogystal â’ch meddyg teulu lleol, gall Canolfan Iechyd y Myfyrwyr eich cynorthwyo trwy reolaeth iechyd proffesiynol.  Gellir cael cyngor am y canlynol: straen, pryder a iechyd meddwl, presgripsiynau, iechyd rhywiol, deiet, rhoi’r gorau i ysmygu a ffordd iachus o fyw.  Gallwn hefyd roi manylion cyswllt asiantaethau eraill yn y gymuned.

Rydyn ni’n cynnig apwyntiadau i weld y nyrs, sydd hefyd yn gallu eich cyfeirio at y meddyg sy’n ymweld yn wythnosol. Rhaid gwneud apwyntiad i weld y meddyg.

Gellir gweld Nyrs y Brifysgol rhwng 10 a.m. a 3 p.m.,
Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Mae’r gwasanaeth ar gael i’r holl fyfyrwyr.

Llid yr Ymennydd a Septisemia

Cysylltu

I wneud apwyntiad galwch heibio, ffoniwch neu ebostiwch.

Ebost: nurse@aber.ac.uk / Ffôn: 01970 622087

Gweithwyr 

RolEnw
Rheolwyr Angela Lloyd-Jones
Nyrs y Brifysgol Bethan Trigg
Ysgrifenyddes Feddygol  Hefina James

Clinig Iechyd Rhywiol

Bob prynhawn dydd Iau, trwy apwyntiad yn unig (1yp - 4yp)

Llinell gyfrinachol = 01267 227475

Gwasanaeth cwbl gyfrinachol, wedi ei ddarparu ar y campws gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ac wedi ei staffio gan Brif Weinyddes Nyrsio Iechyd Rhywiol a Nyrs Iechyd Rhywiol.

“Yng nghlinig y Brifysgol gallwn brofi am Chlamydia – y mwyaf cyffredin o bell ffordd o’r clefydau a drosglwyddir yn rhywiol;
Gallwn hefyd drafod unrhyw bryderon am glefydau a drosglwyddir yn rhywiol a rhoi cyngor;
Gallwn wneud profion beichiogrwydd, rhoi cyngor ynglyn â beichiogrwydd, beichiogrwydd annerbyniol a’ch cyfirio ymlaen os ydych yn ystyried rhoi terfyn ar feichiogrwydd;
Gallwn eich cyfeirio at ymgynghorydd seicorywiol;
Gallwn ddarparu sawl math o bilsen atalcenhedlu;
Gallwn ddarparu condomau;
Gallwn drafod a threfnu gosod IUD neu IUS neu mewnblaniad atalcenhedlu.”
Emma Davies, Brif Weinyddes Nyrsio Iechyd Rhywiol