COFRESTRU AMODOL
Cyfarwyddiadau Gam wrth Gam
Y modiwlau sy'n ymddangos ar eich ffeil [blwyddyn academaidd (2013/2014) yw'r modiwlau craidd ar gyfer eich cynllun astudio y sesiwn nesaf. Dilynwch y camau isod i gofrestru'n amodol ar gyfer yr holl fodiwlau yr ydych wedi eu dewis ar gyfer y sesiwn nesaf.
Cyfnod Ymgynghori: Dydd Llun 15 Ebrill – Dydd Mercher 17 Ebrill 2013
Yn ystod y cyfnod hyn bydd y data yn eich ffeil yn cael ei gloi ac ni fydd yn bosibl i chi fewnbynnu unrhyw fodiwlau, ond dylech edrych ar y data pan ydych yn ymgynghori â’r wybodaeth ar y gronfa ddata, a dylech fynd i’r cyfarfodydd adrannol.
CAM 1 Darllenwch y Wybodaeth Gyffredinol am Gofrestru Amodol.
CAM 2 Edrychwch ar y Gofynion Adrannol ar gyfer yr holl adrannau y bwriadwch astudio ynddynt y sesiwn nesaf er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion.
CAM 3 Edrychwch ar y Gronfa Ddata Cynlluniau Astudio er mwyn gwirio beth yw gofynion eich cynllun.
CAM 4 Edrychwch ar y Gronfa Ddata Modiwlau i gael manylion am yr holl fodiwlau a ddysgir y sesiwn nesaf.
Os ydych yn bwriadu newid eich Cynllun Astudio rhaid i chi gysylltu â'r staff perthnasol yn eich adran(nau) er mwyn llenwi ffurflen Newid Cofrestriad cyn gynted â phosibl gan y bydd angen ei phrosesu cyn y gallwch barhau. Os ydych yn parhau â’ch Cynllun Astudio presennol dylech fod mewn sefyllfa yn awr i gofnodi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf.
Cyfnod Cofrestru: Dydd Iau 18 Ebrill – Dydd Gwener 26 Ebrill 2013
Bydd eich ffeil yn cael ei ddatgloi yn ystod y cyfnod hwn a byddwch yn medru cofnodi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf ar ôl i chi ymgynghori â’ch adran(nau).
CAM 5 Wedi i chi fewnbynnu'ch dewisiadau modiwl ar gyfer y sesiwn nesaf ar eich 'Ffeil Myfyriwr'a chlicio ar y botwm Cadarnhewch Ddewision Cofrestru Amodol cewch ragor o gyfarwyddiadau.
CAM 6 Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cwblhau Cofrestru Amodol ar-lein erbyn dydd Gwener 26 Ebrill 2013 fan bellaf.