Dysgu o Bell ac Ar-lein

Myfyrwyr dysgu o bell

Mae ein cyrsiau Dysgu o Bell yn rhoi modd i chi ddatblygu eich gyrfa academaidd neu broffesiynol, ar eich telerau chi eich hun.

Mewn byd modern lle mae amser yn brin, mae ein cyrsiau Dysgu o Bell wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch bywyd prysur – cewch hyblygrwydd ar y cyd â rhaglen astudio gadarn wedi’i hachredu.

Felly, hyd yn oed os ydych mewn cyflogaeth amser llawn, yn byw i ffwrdd o Aberystwyth neu’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ein nod yw gwneud astudio o bell mor fuddiol a phleserus ag y bo modd.

Pan fydd angen mynychu ysgolion preswyl yn Aberystwyth, mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi modd i chi fynd i’r afael ag astudiaethau achos, trafodaethau ac ymarferion eraill a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r materion a astudir. Maent hefyd yn gyfle perffaith i chi gael arweiniad unigol ar eich gwaith cwrs neu unrhyw beth arall. Darllenwch y disgrifiadau cwrs yn ofalus er mwyn i chi ddeall unrhyw ymrwymiadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud yn hyn o beth.

Cynhyrchu Cyfryngau Uwch

Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun amlddisgyblaeth unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy gyfuno gwybodaeth ymarferol am raglennu cyfrifiaduron a chynhyrchu cyfryngau, y nod yw rhoi’r sgiliau  ymarferol angenrheidiol i gyflogeion allu gweithio gyda thechnolegau digidol a chyfryngau uwch.

Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, gallwn gynnig mynediad i fusnesau ac unigolion i hyfforddiant lefel uchel i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon a gyda ffocws penodol ar dechnolegau newydd a’u potensial ar gyfer cynyddu twf a swyddi.

Darperir hyfforddiant mewn fformat hyblyg sy’n ymateb i’r diwydiant ac sy’n galluogi myfyrwyr i weithio trwy ddysgu o bell â chymorth i ddiweddaru eu gwybodaeth dechnegol, ymgorffori diwylliant ymchwil yn y gweithle a gweithio tuag at gymwysterau ôl-raddedig wedi’u teilwra i’w hanghenion diwydiant.

Cynhyrchu Cyfryngau Uwch.

Cyrsiau BioArloesedd ac Amaethyddiaeth

Rydym yn cynnig modiwlau annibynnol y gellir eu hastudio ar gyfer Datblygiad Personol Parhaus neu eu defnyddio i adeiladu at gymwysterau uwchraddedig.

I gael rhestr lawn o'n modiwlau a rhagor o fanylion am sut y cânt eu cyflwyno, ewch i ibersdl.org.uk

Mae Rhaglenni Dysgu O Bell Ôl-Raddedig IBERS yn cynyddu sgiliau drwy ddatblygiad proffesiynol trwy roi mynediad at ganfyddiadau ymchwil arloesol a throsolwg clir o bynciau sy'n berthnasol i'r gadwyn cyflenwi amaethyddol. Mae ein hyfforddiant yn cynnwys modiwlau dysgu o bell ôl-raddedig i ennill credydau tuag at amrywiaeth o gymwysterau ôl-raddedig.

Astudiaethau Gwybodaeth

Mae gan bawb eu ffordd eu hunain o astudio cyrsiau Dysgu o Bell.

Yn yr adran Astudiaethau Gwybodaeth rydym yn rhoi'r myfyriwr wrth galon y broses dysgu o bell. Gwyddom fod myfyrwyr sy'n dysgu o bell yn aml yn gorfod jyglo eu hastudiaethau â gwaith (cyflogedig neu wirfoddol), ymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eraill, felly rydym yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl i'ch helpu i symud ymlaen ac i lwyddo â'ch astudiaethau. Rydym felly wedi cynllunio ein rhaglenni dysgu o bell i gynnwys elfen o 'hyblygrwydd strwythuredig'. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o fewn rhaglen astudio sydd wedi'i strwythuro a'i dilysu'n gadarn. Er enghraifft, gallwch gymryd peth amser i ffwrdd o'r cwrs pe bai amgylchiadau dros dro yn eich atal rhag astudio. Ar ben hyn, nid ydym yn rhoi terfynau amser ar gyfer aseiniadau; byddwch yn gweithio wrth eich pwysau ac yn pennu eich amserlen aseiniadau eich hun o fewn cyfnod y cwrs.

Am fwy o wybodaeth, ewch i gwefan Adran Astudiaethau Gwybodaeth.