Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad

Wythnos Gwyddoniaeth Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo'n llwyr i flaenoriaethau’r Cyngor Cyllido a Llywodraeth Cymru ac i ddileu rhwystrau (boed yn gorfforol, cymdeithasol, diwylliannol, neu’n ariannol) i Addysg Uwch.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ymrwymiad hirsefydlog i ehangu mynediad i grwpiau o bobl sy’n draddodiadol wedi cael eu tangynrychioli mewn Addysg Uwch. Rydym yn darparu cymorth i fyfyrwyr er mwyn cynyddu mynediad, cyflawniadau, a chynhaliaeth, i’r rhai sydd o gefndir ehangu mynediad, yn enwedig y sawl sy’n ymadawyr gofal, gofalwyr ifanc, neu sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd.

Codi Ymwybyddiaeth - Codi Dyheadau - Codi Cyrhaeddiad