Telerau ac Amodau
Datganiad Gwybodaeth am Hawlfraint a Nacáu Cyfrifoldeb
Onibai y nodir yn wahanol, Prifysgol Cymru, Aberystwyth sydd berchen hawlfraint yr holl wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon, ac ni cheir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ymlaen llaw. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ar y tudalennau hyn, ond yn naturiol y mae eu cynnwys yn agored i newidiadau. Ni ellir dal y Brifysgol yn atebol mewn unrhyw amgylchiadau am niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth ar y tudalennau hyn.
Polisi Preifatrwydd a Gwarchod Data
Y mae'r Brifysgol yn Reolwr Data Cofrestredig yn ôl diffiniad Deddf Gwarchod Data 1998. Caiff unrhyw fanylion personol a gesglir trwy'r wefan hon a'u darparu gennych chi eu prosesu yn unol â'r Ddeddf, a'u defnyddio yn unig i'r diben neu'r dibenion a nodir ar y dudalen berthnasol.
Related Information
Gwefannau Allanol
Y mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau allanol, a gwnaed rhai ohonynt gyda chaniatâd perchnogion y safle allanol. Nid yw Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn gyfrifol am gynnwys nac ansawdd deunydd ar wefannau o'r fath nac ychwaith yn gyfrifol am sicrhau bod y deunydd ar gael. Ni ddylid cymryd bod cyswllt â safle allanol yn golygu bod y Brifysgol yn gefnogol i safbwyntiau a fynegir neu wasanaethau a gynigir gan y safleoedd hynny.
Trefn Cwynion
Manylion Cyswllt
Jonathan DaviesRheolwr Gwarchod Data a Hawlfraint
Cydymffurfiaeth Gwybodaeth
Adeilad Llandinam
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DB
Ffôn: 01970 628592 Ebost: mpd@aber.ac.uk Gwefan Cydymffurfiaeth Gwybodaeth